Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cewch wybod yma sut allwch chi dderbyn teledu digidol yn eich cartref.
Gallwch gael signal teledu digidol drwy:
Nid yw'r holl ddewisiadau hyn ar gael ym mhob ardal. Ni fydd rhai ardaloedd yn gallu derbyn teledu digidol drwy erial hyd nes bydd y newid o ddaearol i ddigidol wedi digwydd ac ni fydd rhai yn gallu derbyn y gwasanaeth drwy linell ffôn. Os ydych chi am wybod pa ddewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi, gallwch ofyn mewn siop drydanol leol neu defnyddiwch y gronfa ddata cod post ar wefan Digital UK.
Pan fyddwch wedi penderfynu ar sut i dderbyn signal teledu digidol, bydd rhaid i chi benderfynu beth i'w wneud gyda'ch set deledu. Bydd angen i chi ystyried pob set deledu yr ydych yn eu defnyddio i wylio teledu. Mae gennych ddau ddewis:
I gael cyngor ymarferol ynghylch dewis cynnyrch teledu digidol, ymwelwch â gwefan Ricability.
Ni fydd angen erial newydd ar y rhan fwyaf o gartrefi.
Os ydych yn dewis derbyn teledu digidol drwy erial ond rydych chi'n cael problemau gyda'ch hen erial - hyd yn oed os ydych mewn ardal sy'n derbyn signal da - bydd angen i chi sicrhau bod yr erial teledu a'r hyn a osodwyd yn addas ar gyfer teledu digidol. Holwch eich gosodwr erials lleol. Chwiliwch am osodwr sy'n perthyn i Gonffederasiwn y Diwydiannau Erials. O 2006 ymlaen, chwiliwch am y logo tic digidol i weld pa osodwyr sy'n cael eu hargymell - fe welwch hyn ar wefan Digital UK.
Os ydych chi'n rhannu erial gydag eraill, er enghraifft os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau, yna efallai bod gennych deledu a rennir rhyngoch fel rhan o gynnwys y tw. Os yw hynny'n wir, bydd angen addasu'r set deledu i dderbyn teledu digidol. Mae'n siur bod eich landlord neu'ch asiant rheoli yn ymwybodol o hyn - holwch nhw am fwy o wybodaeth am yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud.
Bydd mwy o ddewisiadau ar gyfer teledu digidol ar gael i gartrefi ar ôl y newid i deledu digidol. Ond bydd rhaid i chi ofyn yn eich siop drydanol leol neu droi at wefan Digital UK i weld pa ddewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi.
Digital UK yw'r corff annibynnol, dielw sy'n cydlynu'r broses o symud gwylwyr y DU o deledu daearol i deledu digidol. Bydd yn lansio rhaglen gymorth fawr i sicrhau bod pawb yn gwybod beth i'w wneud a phryd.
Gallwch ffonio llinell wybodaeth Digital UK ar 0845 6 50 50 50, neu gallwch gael rhagor o wybodaeth gan Digital UK.