Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Rhentu garej gan y cyngor

Os ydych yn dymuno gwneud cais i rentu garej gan y cyngor, gall eich cyngor lleol fod o gymorth. Rhoddir blaenoriaeth fel arfer i bobl sydd eisoes yn denantiaid tai cyngor. Cewch ragor o wybodaeth am rentu garej gan y cyngor isod.

Gwneud cais am garej gan y cyngor

Rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i holi am ffurflen gais am garej. Unwaith i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen hon, fe gewch eich ychwanegu at y rhestr aros. Rhoddir gwybod i chi pan fydd un ar gael i chi. Mae pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros am garej yn dibynnu ar safle'r garej a faint o bobl eraill sy'n aros. Nid yw llawer o gynghorau yn cynnig garej ar rent i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

At ba ddiben y gallwch chi ddefnyddio'r garej?

Dim ond at ddefnydd preifat a phersonol y mae garejys y cyngor ar gael ac ar gyfer storio cerbyd. Nid ydyn nhw'n dal dŵr yn ddigon da nac yn ddigon diogel ar gyfer storio unrhyw nwyddau eraill. Ni cheir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol. Ni ddylech storio petrol nac unrhyw ddeunydd fflamadwy arall yn eich garej. Ni ddylech isosod eich garej i unrhyw un arall.

Beth os na fydd angen y garej arnoch chi mwyach?

Fel arfer, bydd y cyngor yn gofyn am bedair wythnos o rybudd ymlaen llaw os nad ydych chi eisiau defnyddio'r garej mwyach. Pan fyddwch chi'n dychwelyd yr allweddi, dylai'r garej fod yn wag ac wedi'i sgubo. Bydd eich cyngor yn codi tâl arnoch chi os bydd yn rhaid iddyn nhw ei glirio.

Beth sy'n digwydd os bydd ôl-ddyledion ar eich rhent?

Mae'n rhaid talu rhenti garejys ymlaen llaw. Mae swyddogion y cyngor yn monitro cyfrifon unigolion ac yn cymryd camau er mwyn adennill ôl-ddyledion. Os bydd ôl-ddyledion rhent yn codi i lefel annerbyniol neu os bydd cyfrif mewn dyled am gyfnod rhy hir, gall y cyngor benderfynu terfynu'r denantiaeth ac adfeddiannu'r garej.

Yn wahanol i'r hyn a wneir gyda thai a fflatiau, does dim rhaid i'r cyngor wneud cais i'r llysoedd am Orchymyn Meddiannu er mwyn cael adfeddiannu garej. Os caiff garej ei adfeddiannu a bod nwyddau yn dal ynddo, cysylltir â'r tenant i ofyn iddo symud y nwyddau. Os bydd yn rhaid i'r cyngor glirio'r garej, codir ar y cyn-denant am gost y clirio ynghyd â chost newid clo, os bydd angen gwneud hynny. Mae hyn ar ben unrhyw ôl-ddyledion sy'n ddyledus.

Gellir delio â'r rhan fwyaf o achosion ôl-ddyledion mewn modd syml cyhyd ag y bo'r tenantiaid yn cysylltu â nhw'n ddigon buan. Dim ond gwneud y sefyllfa'n waeth fydd anwybyddu'r dyledion. Oherwydd bod rhent garej yn is na rhent tŷ neu fflat, efallai bod rhai'n meddwl nad yw'n gymaint o flaenoriaeth. Fodd bynnag, mae'n ddyletswydd ar gynghorau i adennill pob rhent sy'n ddyledus er mwyn ariannu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Mae'n rhaid i gynghorau hefyd gadw rheolaeth ar lefelau dyledion rhent o fewn terfynau a bennwyd gan lywodraeth ganolog.

Yn yr adran hon...

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU