Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Darperir mannau parcio dynodedig ar ystadau tai cyngor. Yma fe gewch wybod pa fath o gerbydau y gellir eu parcio yn y mannau hyn a pha reolau sy'n berthnasol.
Ni ddylai tenantiaid barcio unrhyw gerbyd ar erddi eu heiddo. Ni ddylid parcio unrhyw gerbyd (carafanau, cychod ar ôl-gerbyd neu gerbydau masnachol) ar wahân i geir modur neu feiciau modur mewn mannau parcio dynodedig, oni bai bod eich landlord wedi rhoi caniatâd i chi. Ni ddylid parcio'r un cerbyd o fewn ffiniau unrhyw ystâd dai ac eithrio mewn mannau parcio dynodedig.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Gall cerbydau sy'n cael eu parcio mewn llefydd sydd ddim yn fannau dynodedig achosi anghyfleustra i breswylwyr a rhwystro cerbydau gwasanaethau hanfodol rhag dod drwodd - e.e. ambiwlans, y frigâd dân, yr heddlu a lorïau casglu sbwriel ayb. Gall hyn yn ei dro beryglu bywydau pe bai argyfwng yn codi neu arwain at anawsterau o ran darparu gwasanaethau hanfodol.
Wrth barcio ar ystadau tai cyngor, mae'r rheolau cyffredinol isod yn berthnasol: