Diogelwch rhag tân mewn carafanau
Os ydych yn byw mewn carafan neu drelar neu'n eu defnyddio at ddibenion hamdden, cofiwch ddilyn y rhagofalon tân sylfaenol.
Eich carafan
- gosodwch synhwyrydd mwg yn eich carafan
- byddwch yn ofalus wrth goginio - peidiwch â gadael sosbenni saim am eiliad
- cadwch fatsis a thanwyr o gyrraedd plant
- os ydych yn 'smygu, defnyddiwch flychau llwch metel addas - peidiwch byth â smygu yn y gwely
- ni ddylid gadael plant ar eu pennau'u hunain mewn carafan
- sicrhewch fod digon o awyriad yn y garafan a pheidiwch â blocio'r fentiau aer - gallai fod yn angheuol
- cadwch ddiffoddydd tân yn y garafan, ger y drws
Os ydych yn defnyddio poteli nwy yn eich carafan:
- cadwch y silindrau y tu allan i'ch carafan
- cyn mynd i'r gwely neu cyn gadael y garafan, diffoddwch yr holl declynnau
- diffoddwch y silindrau onid yw'r teclynnau (megis oergell) i fod ymlaen yn barhaus
- peidiwch byth â defnyddio stôf neu wresogydd tra bo carafan neu fan wersylla'n symud
- dylid newid poteli nwy dim ond pan fyddant yn gwbl wag
Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng:
- diffoddwch yr holl declynnau a phrif falf y silindr
- agorwch yr holl ffenestri a drysau
- peidiwch â 'smygu na defnyddio switshis trydanol