Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwnsela a mathau eraill o gymorth i'ch perthynas

Os ydych yn cael amser anodd gyda'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner, gallech gael help i wella eich perthynas. Efallai y byddwch am gael cymorth di-enw ar-lein neu efallai y byddai'n well gennych gael cyngor wyneb yn wyneb. Mynnwch wybod ble gallwch gael help yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.

Pryd y gall cyngor a chwnsela helpu eich perthynas

Gallwch gael cyngor ar-lein neu wyneb yn wyneb

Os ydych o'r farn y gallech wneud pethau'n iawn eto, yn hytrach na dod â'ch perthynas i ben, mae nifer o sefydliadau a all helpu. Gallwch gael cyngor ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Mae rhai o’r gwasanaethau yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhaid i chi dalu am eraill.

Os ydych yn cael problemau gyda thrais yn y cartref

Nid yw trais yn y cartref yn ymwneud â rhywun yn eich taro yn unig. Gall hefyd olygu unrhyw drais seicolegol, corfforol neu emosiynol. Os oes unrhyw un o'r pethau hyn yn digwydd i chi, gallwch gael help a chefnogaeth arbenigol.

Cyngor a chymorth o ran perthnasau am ddim ar-lein

Mae Relate yn cynnig cyngor ar-lein i bobl briod, sydd mewn partneriaeth sifil neu sy’n byw gyda’i gilydd. Mae hefyd yn cynnig cyngor arbenigol i bobl iau, pobl hŷn a phobl mewn perthnasau o’r un rhyw.

Gall y wefan Couple Connection eich helpu chi i ddeall eich perthynas yn well a rhoi syniadau i chi ar sut i’w gwella. Gallwch hefyd rhannu eich profiadau a syniadau’n ddi-enw gyda phobl eraill sy’n cael problemau gyda’u perthynas.

Mae 2as1 yn cynnig cyngor a chymorth ar-lein ar faterion perthynas. Mae ganddo bwyslais penodol ar gefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig.

Cyngor a chymorth ar-lein i rieni

Mae Relate for Parents yn cynnig cyngor arbenigol ar fod yn rhiant pan fo perthnasau teuluol yn anodd. Mae'n cynnig cyngor i rieni, llys-rieni a neiniau a theidiau.

Gall y wefan Parent Connection rhoi cyngor ar sut i ddelio â phroblemau yn eich perthynas pan ydych chi’n rhiant. Mae’n ymdrin â datrys problemau gyda’ch partner a’ch plant.

Mae’r wefan Family Lives yn ymdrin â chyngor a chefnogaeth ym mhob agwedd o fywyd teuluol, gan gynnwys pan nad yw perthnasau’n gweithio’n dda.

Cyngor ar-lein ac wyneb yn wyneb i bobl o leiafrifoedd ethnig

Mae 2as1 yn arbenigo mewn cynnig help a chyngor ar berthnasau i bobl o leiafrifoedd ethnig. Mae'n cynnig cyngor ar-lein am ddim, a chwnsela a chyngor ar-lein ac wyneb yn wyneb am ffi.

Cwnsela wedi'i ariannu'n breifat ar berthnasau

Os ydych am ddefnyddio cynghorwr perthnasau annibynnol, gallwch sicrhau ei fod wedi'i gofrestru â Choleg Therapyddion Rhywiol a Pherthnasau. I gael rhestr lawn o'i haelodau, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU