Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gyda'r Grant Dysgu i Oedolion, gallech gael hyd at £30 yr wythnos tra byddwch yn astudio - gan adael i chi ganolbwyntio ar gyrraedd eich nod mewn bywyd.
Beth bynnag yr hoffech ei wneud, gall y cymwysterau iawn roi cychwyn ardderchog i chi.
Bydd pobl sy'n mynd yn ôl i ddysgu yn nes ymlaen yn eu bywydau yn sylwi eu bod yn fwy parod i ganolbwyntio, yn fwy penderfynol nag yr oeddent y tro cyntaf iddynt fod ym myd addysg, a bod ganddynt well syniad ynghylch yr hyn y maent yn dymuno ei astudio.
Felly os na wnaethoch lwyddo i gael cymwysterau yn yr ysgol, beth am fynd yn ôl i'r coleg?
Ac os ydych chi'n gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion, gallai fod yn haws ei fforddio nag y byddwch yn ei feddwl
Bwriad y Grant Dysgu i Oedolion yw eich helpu gyda chostau teithio, deunyddiau astudio neu gostau eraill y gallech eu hwynebu wrth astudio.
Os ydych chi'n oedolyn sy'n dilyn cwrs amser llawn, gallech gael hyd at £30 yr wythnos yn ystod tymor y coleg - mae hynny oddeutu £1,000 y flwyddyn.
Gallwch ddefnyddio'r Grant Dysgu i Oedolion ar gyfer ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau BTEC, NVQ, TGAU a Safon Uwch.
Mae'r pynciau sydd ar gael yn amrywio o fusnes i adeiladu, o wyddoniaeth i drin gwallt, ac o ofal plant i gyhoeddi… beth bynnag yw eich nod mewn bywyd, fe ddewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi.
Ond mae digon o gymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i ddewis yr un sy'n addas i chi.
I gael syniadau am beth i'w astudio, siaradwch â'r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn eich coleg lleol, neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor Gyrfa. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw ffonio 0800 100 900 - neu ofyn i gynghorwr eich ffonio'n ôl neu anfon e-bost yn ôl atoch, drwy ddefnyddio'r dolenni
Bydd a ydych yn gymwys ai peidio (a faint o arian gewch chi) hefyd yn dibynnu ar eich incwm a'ch budd-daliadau – ac mae rhai gofynion eraill y bydd angen i chi eu bodloni.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
I gael cyngor ar eich cais am y Grant Dysgu i Oedolion, ffoniwch 0800 121 8989