Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n anabl, gallai fod yn anodd i chi ymweld â deintyddfeydd. Mae opsiynau ar gael i sicrhau y gallwch gael gofal a thriniaeth ddeintyddol gyflawn.
Efallai y byddwch angen amser, gofal neu nodweddion arbennig ychwanegol o ganlyniad i'ch anabledd neu eich cyflwr meddygol, er mwyn derbyn triniaeth ddeintyddol briodol. Gall eich canolfan neu'ch clinig iechyd ddarparu hyn.
Mae rhai ysbytai neu ganolfannau iechyd yn cynnig triniaeth amgen arbennigol, a all olygu anaesthetig cyffredinol neu sedatif. Efallai mai dyma sydd fwyaf addas i blant anabl, rhywun sydd ag anabledd dysgu difrifol neu sy'n methu aros yn llonydd yn ystod y driniaeth oherwydd ei nam penodol.
Gall eich deintydd neu'ch meddyg eich cyfeirio at y gwasanaeth sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.
Os nad ydych yn gallu mynd i weld deintydd, efallai y gallant ddod â thriniaeth ddeintyddol i'ch cartref. Mae'r dewisiadau o ran triniaeth y tu allan i'r ddeintyddfa yn gyfyngedig. Efallai y bydd oriau arferol y ddeintyddfa'n cyfyngu ar yr adegau o'r diwrnod pan fydd y deintydd yn gallu ymweld hefyd.
Gall rhai ymarferwyr deintyddol cyffredinol roi triniaeth i chi gartref neu yn eich man preswyl dros dro, gyhyd ag y bo hyn yn angenrheidiol oherwydd eich cyflwr a'u bod yn cytuno i'ch derbyn fel claf i gael gofal dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Dylech gadarnhau gyda'r deintydd bod y gofal yn cael ei ddarparu dan drefniadau'r GIG.
Fel arall, efallai y gall gwasanaeth deintyddol cymunedol y GIG a ddarperir gan eich ymddiriedolaeth gofal sylfaenol leol ymweld â'ch cartref. Gall eich meddyg neu ddeintydd lleol roi manylion cyswllt i chi.
Os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch deintydd. Bydd eich deintydd hefyd angen gwybod enw eich meddyg, a pan fo'n briodol, enw'r ymgynghorydd yn eich ysbyty os ydych yn cymryd meddyginiaeth, wedi cael llawdriniaeth neu os ydych yn defnyddio er enghraifft anadlydd.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, mae gennych hawl mynediad i ddeintyddfeydd, a dylai deintyddion wneud 'addasiadau rhesymol' i'w heiddo a'u gweithdrefnau. Ni fyddai disgwyl i ddeintyddfa fechan wneud y math o addasiadau y gallai ysbyty eu gwneud.
Ceir mwy o wybodaeth am ofal deintyddol yn gyffredinol yn adran iechyd a lles Cross & Stitch.
Mae digonedd o wybodaeth ar wefan Sefydliad Iechyd Deintyddol Prydain am bob agwedd ar iechyd deintyddol, gan gynnwys gwybodaeth am ofal deintyddol i bobl ag anghenion arbennig.