Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfleusterau chwaraeon lleol

Dylai pawb gael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae 'na lawer o fudiadau a grwpiau sy'n gweithredu ar ran un math o chwaraeon. Mae 'na lawer sy'n cefnogi pobl anabl.

Cael gwybod am gyfleusterau chwaraeon lleol

Dylai adran hamdden neu wasanaethau cymdeithasol eich cynghorau lleol feddu ar fanylion am gyfleusterau, clybiau chwaraeon a chynlluniau eraill yn eich ardal.

Mae llawer o gynghorau lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau chwaraeon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed gyfrannu a datblygu'u sgiliau.

Dylai eich llyfrgell leol fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth hefyd

Tocynnau hamdden

Mae rhai cynghorau yn darparu tocynnau hamdden i drigolion. Gall dalwyr tocynnau hamdden ddefnyddio’r cyfleusterau am bris llai. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais ar-lein.

Cronfa ddata ‘Active Places’ Sport England

Mae Sport England yn gweithredu’r gronfa ddata ‘Active Places’, sy’n cynnwys gwybodaeth ar ystod eang o gyfleusterau chwaraeon.

Sport England sy'n gyfrifol am gyflwyno amcanion chwaraeon y Llywodraeth.

Mae 'Active Places' yn rhoi modd i chi chwilio am gyfleusterau yn ôl lleoliad a/neu fath o gyfleuster. Mae’n ffordd dda o ddod o hyd i bethau megis eich canolfan chwaraeon, pwll nofio neu drac rhedeg agosaf. Mae gwybodaeth hwyluso mynediad ar gyfer pob gweithgaredd.

Mudiadau chwaraeon anabledd

Ceir nifer o fudiadau chwaraeon cenedlaethol sy'n cynrychioli gwahanol fathau o anabledd, er enghraifft anawsterau dysgu neu nam ar y golwg.

Mae 'na lawer o fudiadau hefyd sy'n gweithredu ar ran un math o chwaraeon sy’n cynnwys chwaraeon anabledd. Er enghraifft, Sefydliad Tennis Prydain yn rhedeg rhaglen o dennis ar gyfer pobl anabl.

Yn ogystal â rhestrau cyswllt rhanbarthol, mae mudiadau'n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth am gyfarpar, addysg hyfforddi, cynlluniau gwobrwyo, digwyddiadau a datblygiad y chwaraeon perthnasol.

Yn yr adran hon...

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU