Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Prynu trwydded gwialen bysgota

Mae’n rhaid i unrhyw un dros 12 oed sy’n pysgota am eog, brithyll, pysgod dŵr croyw neu lyswennod yng Nghymru, Lloegr neu’r Border Esk gael trwydded gwialen bysgota ddilys. Gallwch brynu’r rhain ar-lein, o Swyddfa’r Post, neu dros y ffôn.

Sut mae prynu trwydded gwialen bysgota

Gellir cael trwydded gwialen bysgota o Swyddfa’r Post. Gallwch eu prynu ar-lein, drwy ddebyd uniongyrchol, dros y ffôn, ac yn rhai o ganghennau Swyddfa’r Post yng Nghymru a Lloegr.

Os ydych chi’n pysgota gyda thair neu bedair gwialen (pedair yw’r uchafswm a ganiateir), bydd angen i chi brynu ail drwydded.

Gallwch ffonio Swyddfa’r Post ar 0844 800 5386 i brynu trwydded gwialen bysgota

Cwestiynau ynghylch trwyddedau gwialenni pysgota

Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd:

E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk

Ffôn: 08708 506 506

Mae galwadau ffôn i rifau 0870 yn ystod y dydd yn yr wythnos yn costio 8c, a hyd at 6c y funud dan gynllun Weekend Unlimited BT. Gall prisiau ffonau symudol a darparwyr eraill amrywio.

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n prynu trwydded

Mae’n drosedd pysgota am lyswennod a physgod dŵr croyw heb drwydded gwialen bysgota ddilys. Os cewch eich dal, gallech wynebu dirwy o hyd at £2,500.

Bydd yr arian a godir drwy werthu trwyddedau gwialenni pysgota yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith a wneir gan bysgodfeydd er budd genweirwyr. Os ydych chi’n pysgota heb drwydded, rydych chi’n twyllo genweirwyr eraill.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU