Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch menywod

Mae menywod a merched yn aml yn dargedau trais, gan gynnwys trais domestig, ymosodiadau rhywiol, priodasau dan orfod a masnachu. Os ydych chi’n ddioddefwr, nid oes rhaid i chi oddef hyn. Yma, cewch wybod o le y cewch gefnogaeth a chyngor

Trais yn erbyn menywod: y ffigurau

Mae ffigurau diweddar o Arolwg Troseddu Prydain ac arolygon tebyg yn dangos bod:

  • bron i un fenyw o bob tri wedi profi trais domestig
  • bron i un fenyw o bob pedwar wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhywiol
  • 39 y cant o fenywod yn dweud bod ofn troseddu yn effeithio ar ansawdd eu bywydau
  • bron i un fenyw o bob deg yn dweud fod rhywun wedi eu stelcio
  • 40 y cant o ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol difrifol yn dewis peidio â dweud wrth neb

Trais domestig

Gall trais domestig gynnwys cam-drin corfforol, ymosodiadau rhywiol a bygythiadau geiriol.

Gall hefyd gynnwys ymosodiadau mwy cynnil megis:

  • torri ymddiriedaeth yn gyson
  • ynysu
  • gemau seicolegol
  • harasio

Gall effeithio ar bartneriaid ymhob math o berthynas a gall hefyd gynnwys trais rhwng rhieni a phlant.

Cewch wybod mwy am drais domestig isod.

Ymosodiadau rhywiol

Os ydych chi wedi dioddef trosedd rhywiol mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau i’ch diogelu chi’ch hun ac eraill rhag eich ymosodwr drwy riportio’r drosedd i’r Heddlu.

Os oes rhywun newydd ymosod arnoch, ffoniwch 999. Bydd yr Heddlu a’r gweithwyr ambiwlans yn delio â chi’n gyfrinachol ac yn sympathetig.

Gallwch chi hefyd gysylltu yn uniongyrchol â’ch heddlu lleol a gofyn am gael eich cyfeirio at ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol am help. Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn lleoliadau arbenigol lle mae pobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn cael triniaeth feddygol, yn ffeilio adroddiadau troseddu ac yn cael cefnogaeth wrth ddelio â’r ymosodiad.

Cewch wybod mwy ar dudalen Ymosodiad Rhywiol.

Priodasau dan orfod

Bob blwyddyn, mae nifer fechan o fenywod yn y DU yn cael eu gorfodi gan eu teulu i briodi yn erbyn eu hewyllys.

Os ydych chi’n amau fod eich teulu chi’n bwriadu eich gorfodi chi i briodi, cysylltwch ag Uned Priodasau dan Orfod y Swyddfa Dramor. Mae’n arbenigo mewn delio â’r mater hwn, a gall y staff eich helpu.

Gallwch hefyd ffonio neu e-bostio’r Uned gan ddefnyddio’r rhifau isod. Caiff unrhyw wybodaeth a roddwch ei thrin yn gyfrinachol.

Ffôn: 020 7008 0151
020 7008 0151

E-bost: fmu@fco.gov.uk

Cewch wybod mwy am briodasau dan orfod isod.

Stelcio

Mae stelcio’n digwydd pan fo un person yn dilyn neu’n harasio person arall yn gyson, weithiau’n bygwth trais, ac weithiau ond yn cysylltu’n gyson yn erbyn ewyllys y dioddefwr.

Gall cyswllt fod dros y ffôn, drwy lythyrau, drwy gardiau, drwy e-bost, neu drwy ddod yn gyson i gartref neu weithle’r dioddefwr.

Dylech ei riportio

Os oes rhywun yn eich stelcio, ni ddylech chi oedi cyn cysylltu â’r Heddlu a riportio’r sefyllfa. Mae stelcio’n anghyfreithlon, ac mae gennych chi’r hawl i deimlo’n saff yn eich cartref a’ch gweithle chi.

Gofynnwch am help

Mae’n syniad da gofyn am help gan fudiadau sy’n arbenigo mewn cynnig cyngor a gofal i fenywod.

  • Mae Network for Surviving Stalking yn elusen gofrestredig sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan stelcio
  • Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn helpu pobl i ddelio ag effeithiau troseddu
  • Mae Ffederasiwn Cymorth i Fenywod yn cynnig cefnogaeth a chyngor i fenywod a phlant sydd wedi dioddef stelcio

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU