Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os ydych chi’n cael eich poenydio gan gymdogion swnllyd, neu os ydych chi wedi gweld rhywun yn taflu sbwriel, yn llunio graffiti, neu’n cyflawni gweithredoedd eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ni ddylech chi ddioddef yn dawel. Yma, cewch wybod sut i roi gwybod i’r Heddlu ac i awdurdodau eraill.

Dweud beth sy’n digwydd

A oes gennych broblem gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Cael gwybod beth y gallwch chi ei wneud, a sut mae cael cymorth

Y cam cyntaf yw siarad ag aelodau o’ch tîm plismona cymdogaeth chi. Mae’r timau hynny’n gweithio’n agos gyda thrigolion i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly mae arnynt angen cael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi. Gallant ddarparu cefnogaeth a chyngor, a gallant eich helpu i benderfynu sut i ddelio â’r sefyllfa.

Os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar ansawdd eich bywyd, neu yn gwneud i chi ofni am eich diogelwch neu ddiogelwch eraill, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch gorsaf heddlu leol. Gall y staff eich helpu i ffeilio cwyn.

Casglu tystiolaeth

Pan ddaw'r Heddlu i wybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd gofyn i chi gofnodi'r ymddygiad a rhoi gwybod i’r Heddlu am bopeth sy’n digwydd. Mae arnynt angen digon o dystiolaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd er mwyn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y bobl sy’n achosi’r problemau.

Bydd unrhyw weithgaredd gan yr Heddlu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar ba mor ddifrifol yw’r broblem.

Os yw’r broblem yn ymwneud â sŵn, gall eich cyngor lleol gael eu galw, gan fod cynghorau yn aml yn delio â phroblemau sŵn, yn hytrach na’r Heddlu.

Cosbau am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ar ôl i chi gadw cofnod o wybodaeth am beth sydd wedi bod yn digwydd, gallwch fynd ag ef at yr Heddlu a’ch cyngor lleol. Dylent gymryd camau i gosbi’r bobl sydd wedi bod yn ymddwyn yn ymosodol neu yn ddinistriol.

Gall y rheini sydd wedi bod yn achosi’r problemau gael unrhyw un o nifer o gosbau, gan gynnwys cyfnod yn y carchar.

Rhestrir rhai o’r cosbau mwyaf cyffredin am ymddygiad gwrthgymdeithasol isod.

Contract Ymddygiad Derbyniol

Cytundeb ysgrifenedig yw hwn rhwng yr unigolyn sydd wedi bod yn achosi’r problemau a’u heddlu neu awdurdod lleol. Mae’r cytundebau hyn wedi’u cynllunio i roi cyfle i’r rheini a fu’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol gydnabod eu gweithredoedd, ac i dderbyn cyfrifoldeb dros yr effaith y maent wedi ei gael ar eraill.

Mewn rhai achosion, gall y cytundeb syml hwn atal yr ymddygiad gwael yn gynnar.

Mae’r cytundebau hyn yn esbonio na all y gweithgarwch barhau, ac yn esbonio beth fydd yn digwydd os torrir y contract. Nid ydynt yn rhwym dan gyfraith, ond os bydd yr ymddygiad yn parhau, gellir eu cyfeirio atynt yn y llys.

Hysbysiadau cosb

Dirwyon unwaith-ac-am-byth yw hysbysiadau cosb penodol a hysbysiadau cosb am anrhefn.

Caiff hysbysiadau cosb penodol eu rhoi, fel arfer, am droseddau amgylcheddol megis taflu sbwriel, graffiti neu niwsans sŵn.

Caiff hysbysiadau cosb am anhrefn eu rhoi am droseddau mwy difrifol, megis taflu tân gwyllt, gwerthu alcohol i brynwyr dan oed, neu fod yn feddw ac yn afreolus yn gyhoeddus. Gallant gael eu rhoi i unrhyw un sydd dros 16 mlwydd oed, a bydd maint y ddirwy yn dibynnu ar yr ymddygiad dan sylw.

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs)

Gorchymyn llys yw ASBO sy’n gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n atal mynediad i mewn i fan ble mae problemau wedi digwydd. Mae rheolau a chyfyngiadau pob ASBO yn benodol i’r troseddau dan sylw, ac maent yn para am o leiaf ddwy flynedd.

Nid cosbau troseddol mohonynt, felly ni fydd y rhain yn ymddangos ar gofnodion yr Heddlu. Fodd bynnag, mae gwrthod ufuddhau i reolau ASBO yn drosedd, a’r canlyniad fydd dirwy neu gyfnod yn y carchar.

Gorchmynion Gwasgaru

Gall grwpiau gael eu gorfodi i adael ardal (i wasgaru) ac i beidio â dychwelyd os ydynt yn uchel eu cloch, yn aflonyddus neu yn ddinistriol yn rheolaidd.

Gall ‘ardal’ fod yn unrhyw beth o’r gofod o amgylch peiriant arian i gymdogaeth gyfan, neu hyd yn oed ranbarth awdurdod lleol. Cyn belled â bod tystiolaeth gadarn yn dangos fod y rheini dan sylw wedi bod yn ddinistriol ac yn codi braw ar eraill.

Os caiff gorchymyn gwasgaru ei roi, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydsynio ac mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol neu mewn hysbysiadau sy'n cael eu harddangos yn yr ardal Ar ôl hynny, ni fydd y bobl dan sylw yn gallu dychwelyd i'r lleoliad nes bydd y cyfnod sydd wedi'i bennu yn y gorchymyn drosodd - gall hyn fod yn fisoedd neu’n flynyddoedd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU