Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau ar gyfer ceir a ddefnyddir mewn profion gyrru

Mae rheolau ar gyfer y car neu'r fan y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf gyrru. Os na fydd eich cerbyd yn bodloni'r rheolau, ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf. Mynnwch wybod a yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau.

Y cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf gyrru

Darllen y rheolau

Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • efallai y byddwch yn colli eich ffi

Mae'r rhan fwyaf o yrwyr sy'n dysgu yn sefyll eu prawf ymarferol yng nghar eu hyfforddwr gyrru. Fodd bynnag, gallwch sefyll y prawf yn eich cerbyd eich hun os yw'n bodloni rheolau penodol.

Defnyddio cerbyd newid gêr â llaw neu gerbyd awtomatig

Gallwch sefyll eich prawf gyrru mewn cerbyd newid gêr â llaw neu gerbyd awtomatig. Fodd bynnag, os byddwch yn pasio eich prawf mewn cerbyd awtomatig, byddwch ond yn cael trwydded i yrru cerbydau awtomatig.

At ddibenion prawf gyrru:

  • mae gan gerbydau newid gêr â llaw dri phedal – sbardun, brêc a chydiwr
  • mae gan gerbydau awtomatig ddau bedal

Mynnwch wybod a allwch ddefnyddio eich cerbyd eich hun

Os ydych am ddefnyddio eich cerbyd eich hun ar gyfer eich prawf gyrru, bydd angen i chi gadarnhau:

  • ei fod yn bodloni'r rheolau ar y dudalen hon
  • a oes ganddo ddiffyg hysbys y mae angen i'r gwneuthurwr ei archwilio a'i drwsio cyn iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer prawf gyrru

Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau

Os nad yw eich cerbyd yn bodloni'r rheolau, ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf. Os byddwch yn mynd â cherbyd nad yw'n bodloni'r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • efallai y byddwch yn colli eich ffi

Y rheolau ar gyfer cerbydau a ddefnyddir mewn profion gyrru

Peidiwch ag anghofio

Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar eich cerbyd:

  • drych mewnol y gall yr arholwr ei ddefnyddio i weld y cefn
  • platiau D neu L

Rhaid i'r canlynol fod yn gymwys ar gyfer cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf:

  • mae ganddo bedair olwyn
  • mae'n gallu cyrraedd cyflymder o 62.5 milltir yr awr (mya) neu 100 cilomedr yr awr (km/a) o leiaf
  • mae ganddo sbidomedr sy'n mesur cyflymder yn ôl mya
  • nid oes goleuadau rhybudd yn dangos - er enghraifft, golau rhybudd y bag aer
  • mae ganddo blatiau D neu L ar y tu blaen a'r cefn, ond nid ydynt yn amharu ar yr hyn y gallwch chi na'r arholwr ei weld
  • mae ganddo uchafswm màs awdurdodedig (MAM) nad yw'n fwy na 3,500 cilogram

MAM yw uchafswm pwysau'r cerbyd gan gynnwys uchafswm y llwyth y gellir ei gludo'n ddiogel tra caiff ei ddefnyddio ar y ffordd. Gelwir hwn yn 'bwysau cerbyd gros' hefyd.

Beth sydd ei angen ar y cerbyd yn ôl y gyfraith

Rhaid i'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio:

  • fod wedi'i yswirio'n briodol
  • arddangos disg treth dilys
  • bod yn gyfreithlon ac yn addas i'w ddefnyddio ar y ffyrdd ac â thystysgrif MOT gyfredol os oes angen un arno
  • bod yn amgylchedd di-fwg

Ceir wedi'u llogi

Ni allwch ddefnyddio car wedi'i logi nad oes ganddo system reoli ddeuol ar gyfer prawf gyrru

Beth sy'n rhaid ei osod ar y cerbyd ar gyfer yr arholwr

Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar y cerbyd:

  • gwregys diogelwch ar gyfer yr arholwr
  • ateg pen teithiwr - nid oes yn rhaid iddi fod yn un y gellir ei haddasu, ond rhaid ei bod yn rhan annatod o'r sedd gan na chaniateir mathau 'llithro ymlaen'
  • drych mewnol y gall yr arholwr ei ddefnyddio i weld y cefn - gallwch brynu un o'r rhan fwyaf o siopau offer ceir

Defnyddio cerbyd wedi'i logi ar gyfer eich prawf gyrru

Gallwch ddefnyddio car wedi'i logi ar gyfer eich prawf os yw'n bodloni'r amodau canlynol:

  • mae ganddo system reoli ddeuol
  • mae'r cerbyd yn bodloni'r holl reolau eraill ar gyfer ei ddefnyddio mewn prawf gyrru

Ni allwch ddefnyddio car wedi'i logi nad oes ganddo system reoli ddeuol ar gyfer prawf gyrru.

Olwynion a theiars o wahanol feintiau ar yr un echel

Rhaid i'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio gael olwynion a theiars o’r un maint ar yr un echel, ar y tu blaen a’r cefn. Ni allwch sefyll eich prawf os defnyddir teiar arbed lle.

Cerbydau y mae brêc parcio electronig wedi'i osod arno

Gallwch ddefnyddio eich cerbyd ar gyfer eich prawf os oes brêc parcio electronig wedi'i osod arno.

Diffygion ar gerbydau y mae angen edrych arnynt cyn prawf gyrru

Diffygion ar gerbydau

Bydd angen i chi gadarnhau a oes diffyg hysbys gan eich cerbyd y mae angen edrych arno a'i drwsio

Bydd angen i chi gadarnhau a oes diffyg hysbys gan eich cerbyd y mae angen i'r gwneuthurwr edrych arno a'i drwsio. Dilynwch y ddolen i ganfod:

  • a effeithir ar eich cerbyd
  • pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd
  • pa ddogfennau y bydd angen i chi fynd â nhw gyda chi i'ch prawf gyrru

Cerbydau na allwch eu defnyddio ar gyfer eich prawf gyrru

Ceir na allwch eu defnyddio

Ni allwch ddefnyddio'r ceir canlynol mewn prawf gyrru:

  • BMW Mini convertible
  • Ford KA convertible
  • Toyota iQ
  • VW Beetle convertible

Mae rhai cerbydau nad ydynt yn bodloni'r rheolau ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer prawf gyrru. Mae hyn am nad ydynt yn galluogi'r arholwr i weld yn iawn i bob cyfeiriad.

Ar y cyfan, y cerbydau hyn yw:

  • ceir codi to
  • faniau panel

Mathau a modelau na ellir eu defnyddio

Dyma'r mathau o geir a'r modelau ceir na ellir eu defnyddio ar gyfer prawf gyrru:

  • BMW Mini convertible
  • Ford KA convertible
  • Toyota iQ
  • VW Beetle convertible

Os ydych am ddefnyddio car codi to neu fan panel ar gyfer eich prawf, cadarnhewch ei fod yn addas pan fyddwch yn trefnu eich prawf.

Rheolau ar gyfer profion gan dynnu ôl-gerbyd neu garafán

Mae rheolau ychwanegol yn berthnasol os byddwch yn sefyll prawf gan dynnu ôl-gerbyd neu garafán. Dysgwch fwy am y rheolau hynny drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU