Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Telerau ac amodau

Telerau ac amodau ar gyfer defnyddio gwefan Cross & Stitch

[Diweddarwyd y tudalen hon diwethaf ar 21 Ebrill 2008]

Caiff gwefan Cross & Stitch ei rheoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP: a elwir yn 'Ni' isod). Wrth ddefnyddio'n safle, rydych chi fel defnyddiwr ('Chi') yn derbyn ein telerau a'n hamodau.

Defnyddio Cross & Stitch

Caiff gwefan Cross & Stitch ei chynnal i chi gael ei defnyddio a'i gweld. Mae agor a defnyddio Cross & Stitch sy'n cynnwys y telerau a'r amodau hyn yn golygu eich bod yn eu derbyn. Maent yn berthnasol o'r dyddiad y byddwch Chi'n defnyddio'r wefan am y tro cyntaf.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu nac yn cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw drydydd parti o'r safle. Mae cyfyngiadau ac amhariadau o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon neu a all aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys masweddus neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol y safle.

Fe'ch gwaherddir rhag postio neu drosglwyddo, drwy'r wefan hon, unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difrïol, anweddus, sarhaus neu dramgwyddus, ac unrhyw ddeunydd sy'n adlewyrchu neu'n annog ymddygiad a ystyrir yn drosedd, sy'n debygol o arwain at atebolrwydd sifil, neu fel arall sy'n torri unrhyw gyfraith. Byddwn yn cydymffurfio'n llawn gydag unrhyw awdurdodau sy'n gorfodi'r gyfraith neu â gorchmynion llys cyfreithiol sy'n gofyn i ni ddatgelu pwy yw unrhyw un sy'n postio gwybodaeth neu ddeunydd o'r fath ar y wefan hon.

Bydd gwybodaeth sy'n ei chasglu gennym yn cael ei defnyddio mewn arolygon mewnol ar gyfer:

  • gwella cynnwys Cross & Stitch
  • addasu cynnwys ac/neu olwg Cross & Stitch
  • rhoi gwybod i ddefnyddwyr (gyda'u caniatâd) am ddiweddariadau i Cross & Stitch
  • cysylltu â defnyddwyr (gyda'u caniatâd) at ddibenion marchnata

Ni chaiff gwybodaeth sy'n cael ei chasglu ei rhannu gyda sefydliadau eraill at ddibenion masnachol

Dolenni i Cross & Stitch

"Mae Cross & Stitch yn awyddus i wefannau eraill gynnwys dolen i gysylltu â ni"

Mae Cross & Stitch yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen i gysylltu â'r wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn. Does dim rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen ond gallwn Ni ddarparu'r geiriau a'r graffigau ar gyfer y ddolen. Dilynwch y ddolen isod am fwy o fanylion.

Ymwadiad

Mae gwefan Cross & Stitch a deunydd sy'n gysylltiedig â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau'r llywodraeth (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), yn cael eu darparu 'fel y maent', heb unrhyw gynrychiolaeth nag ardystiad a heb warant o unrhyw fath boed hynny'n amlwg neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, peidio torri amodau, cydweddoldeb, diogelwch, cyflawnrwydd a chywirdeb.

Nid ydym yn gwarantu nac yn golygu bod y swyddogaethau sydd wedi eu cynnwys yn y deunydd sydd ar gael yn y safle hwn yn cael eu darparu'n ddi-dor na heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y safle hwn na'r gweinydd sy'n ei ddarparu yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli swyddogaeth lawn, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunyddiau.

Ni fyddwn Ni dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw gostau, colled na difrod, gan gynnwys, heb gyfyngiad, ddifrod neu golled anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac am unrhyw gostau, colled na difrod o unrhyw fath sy'n deillio o ddefnydd, neu golli defnydd, data, neu golli elw, drwy ddefnyddio www.direct.gov.uk neu sy'n gysylltiedig â'i ddefnyddio, nac am ddibynnu ar ei gynnwys.

Ni ellir sicrhau bod trosglwyddo unrhyw ddata dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra'n bod yn ceisio diogelu gwybodaeth o'r fath, nid ydym yn gwarantu hynny ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo i ni. Gan hynny, bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo i ni yn cael ei throsglwyddo ar eich risg eich hun.

Nid yw gwefan Cross & Stitch yn wasanaeth i'w ddefnyddio yn lle cyngor proffesiynol annibynnol, a dylai defnyddwyr gael cyngor proffesiynol priodol sy'n berthnasol i'w sefyllfa benodol.

Gall y deunydd ar y wefan hon gynnwys barn neu argymhellion trydydd partïon, nad ydynt o anghenraid yn adlewyrchu barn Llywodraeth EM, nac yn arwydd o'i hymrwymiad i weithredu mewn ffordd benodol. Nid oes gennym na chyfrifoldeb nac atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd trydydd parti o'r fath.

Y gyfraith lywodraethol

Bydd y telerau a'r amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau a'r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr a Chymru.

Dolenni i wefannau allanol

"Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan sydd â dolen iddi"

Bydd dolenni ar Cross & Stitch yn arwain i wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth ni. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan sydd â dolen iddi. Nid yw rhestru gwefan neu roi dolen iddi'n golygu ein bod yn ei chymeradwyo ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o ran y cynnwys. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni iddynt.

Diogelu rhag Firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam o'r broses greu. Rhaid i chi ddilyn eich rhagofalon eich hun i sirchau nad yw'r broses y byddwch yn ei defnyddio i agor y wefan yn eich gadael yn agored i'r perygl o firysau, codau cyfrifiadur maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol eich hun. Mae'n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lwytho o'r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy'n mynd ar goll, am unrhyw darfu ar ddata neu unrhyw ddifrod iddo, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur wrth ddefnyddio deunydd ar y wefan hon.

Amrywiad

Fe allwn ni newid y telerau a'r amodau hyn unrhyw bryd heb roi rhybudd. Edrychwch arnynt yn rheolaidd. Mae parhau i ddefnyddio gwefan Cross & Stitch ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu eich bod yn derbyn y newid hwnnw.

Cyffredinol

Nid ydym yn atebol o gwbl am fethu â chydymffurfio â'r telerau a'r amodau hyn os bydd methiant o'r fath o ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol ni.

Os byddwn yn ildio unrhyw hawliau sydd gennym o dan y telerau a'r amodau hyn ar un achlysur, nid yw'n golygu y bydd yr hawliau hynny'n cael eu hildio ar unrhyw achlysur arall.

Os bydd unrhyw rai o'r telerau a'r amodau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu os na fydd modd eu gorfodi am unrhyw reswm, bydd y telerau a'r amodau eraill serch hynny mewn grym ym mhob ffordd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU