Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau ar gyfer mopedau a beiciau modur a ddefnyddir ar brofion gyrru

Ceir rheolau ynglŷn â’r moped neu’r beic modur y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf gyrru. Os na fydd eich cerbyd yn bodloni’r rheolau hyn, ni chewch ei ddefnyddio ar eich prawf. Yma, cewch wybod a yw’ch moped neu’ch beic modur yn bodloni’r rheolau.

Sefyll prawf gyrru ar foped

Gweld beth yw’r rheolau

Os na fydd eich cerbyd yn bodloni’r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi

Rhaid i’r moped y byddwch yn ei ddefnyddio ar eich prawf:

  • fod ag injan sydd â chapasiti o ddim mwy na 50 centimetr ciwbig (cc)
  • fod â chyflymder uchaf o ddim mwy nag oddeutu 32 milltir yr awr, sef 50 cilometr yr awr
  • gael cloc cyflymder sy’n mesur cyflymder mewn milltiroedd yr awr
  • ddangos platiau L (platiau ‘L’ neu ‘D’ yng Nghymru) ar y blaen a’r cefn
  • fod yn gyfreithlon ac yn ddiogel i fod ar y ffordd, heb i oleuadau rhybudd sy’n ymwneud â’r injan ymddangos

Os nad yw eich moped yn bodloni’r rheolau:

Os nad yw eich moped yn bodloni’r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi

Sefyll prawf gyrru ar feic modur

Defnyddio beic modur o'r un is-gategori

Rhaid i chi ddefnyddio beic modur o’r un is-gategori ar gyfer dau fodiwl y prawf beic modur

Rhaid i’r beic modur y byddwch yn ei ddefnyddio ar eich prawf:

  • fod yn 75 cc neu fwy
  • gael cloc cyflymder sy’n mesur cyflymder mewn milltiroedd yr awr
  • ddangos platiau L (platiau ‘L’ neu ‘D’ yng Nghymru) ar y blaen a’r cefn
  • fod yn gyfreithlon ac yn ddiogel i fod ar y ffordd, heb i oleuadau rhybudd sy’n ymwneud â’r injan ymddangos

Ni cheir defnyddio beiciau modur amgaeedig

Ni cheir defnyddio beiciau modur amgaeedig fel y BMW C1 ar y prawf.

Os nad yw eich beic modur yn bodloni’r rheolau

Os nad yw eich beic modur yn bodloni’r rheolau:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi

Trawsyriant awtomatig neu led-awtomatig

Os byddwch yn pasio eich prawf ar feic modur sydd â thrawsyriant awtomatig neu led-awtomatig:

  • bydd yn cael ei gofnodi ar eich trwydded
  • dim ond beiciau modur yn y categori hwnnw y cewch eu gyrru dan drwydded lawn

Is-gategorïau beiciau modur

Gallwch ddefnyddio beic modur sy’n dod o un o dri is-gategori ar eich prawf. Rhaid i chi ddefnyddio beic modur o’r un is-gategori ar gyfer dau fodiwl y prawf beic modur.

Bydd is-gategori y beic modur y byddwch yn sefyll eich prawf arno yn effeithio ar yr is-gategorïau y gallwch eu gyrru ar ôl i chi basio eich prawf.

Is-gategori A1 (beic modur ysgafn)

Enghraifft o feic modur ysgafn

Beic modur unigol rhwng 75 a 125 cc yw beic modur o is-gategori A1.

Mae ganddynt allbwn pŵer heb fod yn fwy nag 11 cilowat.

Os byddwch yn pasio eich prawf ar feic modur o’r is-gategori hwn, cewch yrru beiciau modur hyd at 125cc fel deilydd trwydded lawn.

Is-gategori A2 (beic modur safonol)

Enghraifft o feic modur safonol

Beic modur unigol rhwng 121 a 125 cc yw beic modur o is-gategori A2, sy’n gallu teithio’n gyflymach na 62.5 milltir yr awr (100 cilometr yr awr).

Os byddwch yn pasio eich prawf ar feic modur o’r is-gategori hwn, cewch yrru beiciau modur gydag allbwn pŵer heb fod yn fwy na 25 cilowat, sef yr un fath â 33 marchnerth brecio. Bydd y cyfyngiad hwn yn para am ddwy flynedd.

Ar ôl dwy flynedd, bydd y cyfyngiad yn cael ei godi’n awtomatig. Yna, cewch yrru beic modur gydag injan o unrhyw faint ac allbwn pŵer.

Categori A (digyfyngiad)

Enghraifft o feic modur digyfyngiad

Beic modur unigol gydag allbwn pŵer o 35 cilowat (46.6 marchnerth brecio) o leiaf yw beic modur digyfyngiad o gategori A.

Gallwch sefyll eich prawf ar feic modur o’r categori hwn dan y cynllun mynediad uniongyrchol neu'r cynllun mynediad datblygol.

Os byddwch yn pasio eich prawf ar feic modur digyfyngiad, gallwch yrru beic modur gydag injan o unrhyw faint ac allbwn pŵer.

Beiciau modur gyda cherbyd ochr

Dim ond os oes gennych chi anableddau penodol y cewch ddefnyddio beic modur gyda cherbyd ochr ar eich prawf.

Mae’r rheolau ar gyfer beiciau modur gyda cherbyd ochr yr un fath ag ar gyfer beic modur unigol, ond:

  • ni chaiff categorïau A ac A1 gael cymhareb pŵer i bwysau o fwy na 0.16 cilowat y cilogram
  • ni chaniateir i deithwyr fod yn y cerbyd ochr yn ystod y prawf

Dim ond beic modur gyda cherbyd ochr y cewch ei ddefnyddio gyda’r drwydded a gewch wrth basio’r prawf hwn.

Cymorth i feicwyr modur gydag anabledd

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Beicwyr gydag Anabledd yn elusen gofrestredig sy’n darparu gwybodaeth er mwyn helpu pobl anabl i fwynhau gyrru beic modur yn annibynnol. Gallwch fynd i wefan y Gymdeithas i gael gwybod am addasiadau y gellir eu gwneud i gerbydau.

Rheolau newydd os byddwch yn sefyll prawf o 19 Ionawr 2013 ymlaen

Bydd rheolau newydd ar gyfer y moped neu’r beic modur y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf beicio o 19 Ionawr 2013. Os byddwch yn sefyll eich prawf o’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd angen i chi ddilyn y rheolau newydd.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU