Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi am yrru lori neu fws, bydd angen i chi fodloni safonau meddygol uwch cyn i chi gael trwydded dros dro. Yna, bydd rhaid i chi sefyll prawf gyrru ymarferol a theori. Bydd hefyd angen i chi sefyll a phasio profion theori ac ymarferol y Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr os ydych chi’n bwriadu gyrru’n broffesiynol.
Ar ddechrau’r prawf, bydd rhai cwestiynau ynghylch diogelwch cerbydau yn cael eu gofyn i chi. Byddwch yn cael eich profi ar eich gallu i yrru'n ymarferol ar y ffordd, ac ar rai ymarferion oddi-ar-y-ffordd. Bydd y prawf yn para tua 90 munud.
Bydd yr ymarferion oddi-ar-y-ffordd yn cynnwys:
Pan fyddwch chi’n gyrru ar y ffordd, bydd yr arholwr yn gwylio sut ydych chi’n gwneud y canlynol:
Profion diogelwch sylfaenol yw’r rhain y dylai gyrrwr eu gwneud i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio. Bydd rhai profion yn golygu agor y bonet i ddangos lle mae gweld lefel yr hylifau.
Mae’n dderbyniol i chi gyfeirio at system wybodaeth y cerbyd (os oes un) wrth ateb cwestiynau am lefel yr hylifau neu wasgedd teiars. I gael rhestr o'r cwestiynau diogelwch y gellid eu gofyn yn eich prawf gyrru, cliciwch ar y ddolen briodol i'r cwestiynau am ddiogelwch cerbydau isod.
Yn ystod y prawf gyrru bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Bydd llwybrau'r prawf yn cael eu cynllunio i fod mor debyg i'w gilydd â phosib a byddant yn cynnwys yr amrywiaeth o amodau ffordd a thraffig y byddai rhywun yn dod ar eu traws fel arfer.
Bydd eich prawf gyrru ymarferol yn cynnwys oddeutu deg munud o yrru annibynnol. Mae hyn wedi’i gynllunio i asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.
Bydd mwy na 15 o wallau gyrru yn golygu eich bod wedi methu. Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwneud un gwall difrifol neu beryglus, byddwch yn methu'r prawf. Os yw eich arholwr ar unrhyw adeg yn ystyried eich bod yn peryglu defnyddwyr eraill y ffordd, bydd eich prawf yn dod i ben yn y fan a’r lle.
Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn eich annog i fynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru. I gael y budd gorau o hyn, byddai’n syniad da gofyn i’ch hyfforddwr fynd gyda chi. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n mynd gyda chi ar brawf fod yn 16 mlwydd oed o leiaf.
Pan fydd y prawf gyrru wedi dod i ben, gallwch alw eich hyfforddwr draw os nad oedd wedi mynd gyda chi ar eich prawf.
Bydd yr arholwr yn rhoi gwybod i chi a ydych chi wedi pasio ynteu fethu’r prawf, a bydd yn egluro sut aeth y prawf. Os byddwch yn methu, bydd yn rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith (sy’n cynnwys dydd Sadwrn) cyn i chi allu sefyll y prawf eto.
Hyfforddir pob arholwr i gynnal y prawf i'r un safon, ac ni fyddant yn cyfrif faint sy'n pasio neu'n methu. Cyn belled â'ch bod yn gyrru i'r safon angenrheidiol, byddwch yn pasio'ch prawf gyrru.
Weithiau bydd rhaid i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ganslo neu stopio profion gyrru oherwydd pethau fel tywydd garw neu broblemau gyda cherbydau. Yma cewch wybod beth fydd yn digwydd os caiff eich prawf ei ganslo neu ei stopio, a beth fydd angen i chi ei wneud mewn tywydd garw.