Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y cerbydau y cewch eu gyrru a’r gofynion oed

Mae’r tablau isod yn dangos y cerbydau y cewch eu gyrru a'r gofynion oed. Maent yn dangos i chi pryd y bydd angen hawl dros dro i yrru cerbyd a phrawf gyrru ychwanegol os bu i chi basio eich prawf gyrru ar ôl 1 Ionawr 1997.

Byddant hefyd yn dangos pa gerbydau y cewch eu gyrru os bu i chi basio eich prawf gyrru cyn 1 Ionawr 1997 ond cyhoeddwyd eich trwydded gyrru ar ôl y dyddiad hwnnw.

Newidiadau i reolau trwyddedau gyrru ym Mhrydain Fawr

O 19 Ionawr 2013 ymlaen, bydd rheolau trwyddedau gyrru newydd yn cael eu cyflwyno. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut y gellir effeithio arnoch chi.

Profion gyrru a basiwyd cyn 1 Ionawr 1997

Gallwch hefyd gael gwybod pa gerbydau y cewch eu gyrru os bu i chi basio eich prawf gyrru ac i’ch trwydded yrru gael ei rhoi cyn 1 Ionawr 1997.

Beiciau modur

Categori Disgrifiad Oedran ieuengaf
P

Mopedau gydag injan o faint hyd at 50 cc a chyflymder uchaf o hyd at 50 cilometr yr awr

16
A1

Beiciau modur ysgafn gydag injan o faint hyd at 125 cc ac allbwn pŵer o hyd at 11 kW (14.6 bhp)

17
A

Beiciau modur o faint canolig hyd at 25kW (33bhp) a chymhareb pŵer i bwysau o hyd at 0.16kW/kg.

17
A

Beiciau modur gyda cherbyd ochr a chymhareb pŵer i bwysau o hyd at 0.16 kW/kg

17
A

Beic modur o unrhyw faint, gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr, os ydych chi wedi cyflawni’r Cynllun Mynediad Uniongyrchol ar gyfer beiciau modur mawr

21*

*Cewch yrru beic modur mawr waeth beth fydd eich oedran ddwy flynedd ar ôl i chi basio prawf ar feic modur o faint canolig.

Cerbydau ysgafn tair neu bedair olwyn

Categori Disgrifiad Oedran ieuengaf

B1

Beiciau modur tair neu bedair olwyn neu gerbydau tair neu bedair olwyn yn pwyso dim mwy na 550 kg heb lwyth

17*

*16 oed os ydych chi ar hyn o bryd yn cael Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch (elfen symudedd).

Ceir neu faniau ysgafn, gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Ystyr y term uchafswm màs awdurdodedig (MAM) yw cyfanswm pwysau’r cerbyd yn ogystal â’r llwyth mwyaf y gall ei gario yn ddiogel.

Categori

Disgrifiad

Oedran ieuengaf

B

Cerbydau modur â MAM o hyd at 3,500 kg, gyda dim mwy nag wyth o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd neu heb ôl-gerbyd - sy’n pwyso dim mwy na 750 kg

17*

B

Fel categori B ond gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso mwy na 750 kg. Ni all cyfanswm pwysau’r cerbyd a’r ôl-gerbyd gyda’i gilydd fod yn fwy na 3,500 kg. Ni all pwysau’r ôl-gerbyd, pan fydd wedi’i lwytho’n llawn, bwyso mwy na phwysau’r cerbyd heb lwyth

17*

B (awto)

Fel categori B ond gyda thrawsyriant awtomatig

17*

B+E

Fel categori B ond gydag ôl-gerbyd trymach nad yw’n cael ei gynnwys yn y disgrifiadau ar gyfer categori B

17



*16 oed os ydych chi ar hyn o bryd yn cael Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch (elfen symudedd).

Enghraifft o gategori B gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso dros 750 kg: Cerbyd modur gyda phwysau heb lwyth o 1,500 kg a phwysau uchaf o 2,000 kg wrth dynnu ôl-gerbyd sydd wedi’i lwytho’n llawn gyda phwysau o 1,500 kg - cyfanswm pwysau o 3500.

Enghraifft o gategori B+E: Cerbyd modur gyda MAM o hyd at 3,500 kg sy'n tynnu ôl-gerbyd sy’n pwyso dros 750 kg.

Cerbydau o faint canolig gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori

Disgrifiad Oedran ieuengaf

C1

Cerbydau sy’n pwyso rhwng 3,500 kg a 7,500 kg, gydag ôl-gerbyd neu heb ôl-gerbyd - sy’n pwyso dim mwy na 750 kg

18*

C1+E

Fel categori C1 ond gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso mwy na 750 kg. Ni all cyfanswm pwysau’r cerbyd a’r ôl-gerbyd gyda’i gilydd fod yn fwy na 12,000 kg. Ni all pwysau’r ôl-gerbyd, pan fydd wedi’i lwytho’n llawn, bwyso mwy na phwysau’r cerbyd heb lwyth

21*,**,

***

*17 oed os ydych chi’n aelod o’r gwasanaethau arfog.

**18 oed os cawsoch eich trwydded yrru cyn 10 Medi 2009 a bod pwysau’r cerbyd a’r ôl-gerbyd gyda’i gilydd yn llai na 7,500 kg.

***Cewch yrru cerbydau categori C1+E yn 18 oed os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi pasio eich prawf gyrru a chymhwyster cychwynnol Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (TCP) i Yrwyr
  • rydych chi’n dysgu sut i yrru neu’n sefyll prawf gyrru ar gyfer y categori hwn neu gymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr
  • rydych chi’n dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol cenedlaethol i gael cymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr
  • cawsoch eich trwydded yrru cyn 10 Medi 2009 – rhaid i chi ddilyn hyfforddiant cyfnodol TCP o fewn pum mlynedd ar ôl y dyddiad hwn

Enghraifft o gategori C1+E: Cerbyd gyda phwysau heb lwyth o 6,000 kg a phwysau uchaf o 7,500 kg wrth dynnu ôl-gerbyd sydd wedi’i lwytho’n llawn gyda phwysau o 4,500 kg - cyfanswm pwysau o 12,000 kg.

Cerbydau mawr, gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori Disgrifiad

Oedran ieuengaf

C

Cerbydau dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

21*, **

C+E

Fel categori C ond gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

21*, **

*17 oed os ydych chi’n aelod o’r gwasanaethau arfog.

**Cewch yrru’r cerbydau hyn yn 18 oed os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi wedi pasio eich prawf gyrru a chymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr
  • rydych chi’n dysgu sut i yrru neu’n sefyll prawf gyrru ar gyfer y categori hwn neu gymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr
  • rydych chi’n dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol cenedlaethol i gael cymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr
  • cawsoch eich trwydded yrru cyn 10 Medi 2009 – rhaid i chi ddilyn hyfforddiant cyfnodol TCP o fewn pum mlynedd ar ôl y dyddiad hwn

Bysys mini, gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori

Disgrifiad Oedran ieuengaf

D1

Cerbydau gyda lleiafswm o 9 ac uchafswm o 16 o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd neu heb ôl-gerbyd - sy’n pwyso dim mwy na 750 kg

21*, **, ***

D1+E

Fel categori D1 ond gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso mwy na 750 kg. Ni all cyfanswm pwysau’r cerbyd a’r ôl-gerbyd gyda’i gilydd fod yn fwy na 12,000 kg. Ni all pwysau’r ôl-gerbyd, pan fydd wedi’i lwytho’n llawn, bwyso mwy na phwysau’r cerbyd heb lwyth

21*, **, ***

Bysiau, gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori

Disgrifiad

Oedran ieuengaf

D

Unrhyw fws gyda mwy nag wyth o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

21*, **, ***

D+E

Fel categori D ond gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

21*, **, ***

*17 oed os ydych chi’n aelod o’r gwasanaethau arfog.

**Cewch yrru’r cerbydau hyn yn 18 oed os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

1) Rydych chi’n dysgu sut i yrru neu’n sefyll prawf Cerbyd Cludo Teithwyr neu gymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr

2) Ar ôl pasio prawf Cerbyd Cludo Teithwyr a chymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr, gallwch yrru dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn hwy na 50 km
  • heb fod yn cludo teithwyr
  • gyrru cerbyd mewn dosbarth sy'n perthyn i is-gategori D1

3) Ar ôl pasio prawf Cerbyd Cludo Teithwyr cyn 10 Medi 2008 gallwch yrru dan drwydded cwmni bysiau, trwydded bws mini, neu drwydded bws cymunedol, ac o dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn hwy na 50 km
  • heb fod yn cludo teithwyr
  • gyrru cerbyd mewn dosbarth sy'n perthyn i is-gategori D1

***20 oed ar ôl pasio prawf gyrru Cerbyd Cludo Teithwyr a chymhwyster cychwynnol TCP i Yrwyr.

I gael cyngor pellach gallwch gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ffonio 0300 200 1122.

Categorïau eraill

Categori

Disgrifiad

Oedran ieuengaf

F

Tractorau Amaethyddol

17*

G

Rholeri ffordd

21**

H

Cerbydau trac

21***

K

Peiriant torri gwair neu gerbydau a reolir gan rywun ar droed

16

*16 oed ar gyfer tractorau sy'n llai na 2.45 metr o led, sydd ddim ond yn tynnu ôl-gerbydau sy’n llai na 2.45m o led gyda dwy olwyn, neu bedair o olwynion clos cwpledig.

**17 oed ar gyfer cerbydau rholio ffordd bach gyda rholeri metel neu roleri caled na chânt fod yn cael eu gyrru gan stêm, na phwyso mwy nag 11,690 kg na bod wedi eu gwneud i gario llwythi.

***17 oed os nad yw MAM y cerbyd trac dros 3,500 kg.

Codau gwybodaeth ar drwyddedau gyrru

Mae'n bosibl y bydd gan eich trwydded godau gwybodaeth sy'n dangos pa gyfyngiadau (os oes rhai) sydd ar eich hawl i yrru.

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU