Banner Logo
Ewch i Directgov Motoring | English/Saesneg Gwasanaethau ddarparu’r gan DVLA: DVLA logo

Thelerau ac amodau

Ymwadiad

Dylid darllen ein hymwadiad ar y cyd â’n Polisi Preifatrwydd.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gwneud ei gorau glas i sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar y sianel ymholiadau hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all DVLA dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cywirdeb na’r cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar yr wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.
Pan fydd dogfen yn darparu arweiniad ar y gyfraith, ni ddylid ei ystyried yn arweiniad diffiniol a phendant. Gall y ffordd y mae’r gyfraith yn berthnasol i achos penodol amrywio yn ôl yr amgylchiadau a dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydych yn sicr o’ch sefyllfa gyfreithiol bersonol.
Fe'ch gwaherddir rhag postio neu drosglwyddo, drwy'r sianel ymholiadau hon, unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difrïol, anweddus, sarhaus neu dramgwyddus, ac unrhyw ddeunydd sy'n cyfateb i ymddygiad neu sy'n annog ymddygiad a fyddai’n cael ei ystyried yn drosedd, sy'n debygol o arwain at atebolrwydd sifil, neu sy'n torri unrhyw gyfraith mewn rhyw ffordd arall. Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau sy'n gorfodi'r gyfraith neu â gorchymyn llys cyfreithiol sy'n gofyn i ni ddatgelu pwy yw unrhyw un sy'n postio gwybodaeth neu ddeunydd o'r fath drwy’r sianel ymholiadau hon.

Hawlfraint y Goron.

Mae’r deunydd a welir ar y sianel ymholiadau hon wedi’i warchod gan Hawlfraint y Goron a / neu hawlfraint trydydd parti, a gellir gweld manylion yr hawlfraint honno yn ein hysbysiad hawlfraint.

Logos.

Mae DVLA a’r symbol ffordd triongl yn Nodau Masnach Cofrestredig yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Ni chaniateir copio na defnyddio logo DVLA nac unrhyw logo arall sy’n ymwneud â DVLA heb dderbyn caniatâd ymlaen llaw gan DVLA. Mae trefn benodol y mae’n rhaid ei dilyn a dylid cyfeirio unrhyw gais am ganiatâd at y tîm Amddiffyn Brand, e-bost: logorequest@dvla.gsi.gov.uk

Defnyddio hyperddolenni

Mae DVLA yn annog defnyddwyr i greu dolenni hyperdestun i’r safle hwn. Serch hynny, nid ydym yn fodlon i chi ddefnyddio ein logo fel gwrthrych hyrwyddo neu wrthrych hyperdestun. Mae’n bolisi gennym i gael caniatâd cyn cynnig dolen i wefannau eraill. Nid yw DVLA yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt. Nid yw’r ffaith eu bod wedi’u rhestru yma yn unrhyw fath o gymeradwyaeth. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni atynt.

Diogelu rhag Feirysau

Mae DVLA yn gwneud ei gorau glas i wirio a phrofi deunyddiau ar bob cam o’r broses greu. Mae’n syniad da i bob defnyddiwr redeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunydd sy’n cael ei lwytho oddi ar y Rhyngrwyd. Ni all DVLA dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy'n mynd ar goll, am unrhyw darfu ar ddata neu unrhyw ddifrod iddo nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur wrth ddefnyddio deunydd oddi ar y sianel ymholiadau hon.

Y gyfraith lywodraethol

Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau a'r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth benodol llysoedd Lloegr a Chymru.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn dim cyfrifoldeb am fethu â chydymffurfio â'r telerau a'r amodau hyn os bydd methiant o'r fath o ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol ni. Os byddwn yn ildio unrhyw hawliau sydd gennym o dan y telerau a'r amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny'n cael eu hildio ar unrhyw achlysur arall. Os bydd unrhyw rai o'r telerau a'r amodau hyn yn cael eu hystyried yn annilys, yn anghyfreithlon neu os na fydd modd eu gorfodi am unrhyw reswm, bydd y telerau a'r amodau eraill serch hynny mewn grym ym mhob ffordd