Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld a ydych yn gymwys i gael pasbort Prydeinig drwy eich mam, eich partner neu o ganlyniad i ble rydych yn byw

I fod yn gymwys i gael pasbort Prydeinig, mae'n rhaid i chi fod o genedligrwydd Prydeinig. Mae hwn yn fater cyfreithiol a gall fod yn gymhleth mewn rhai sefyllfaoedd. Os nad ydych yn siŵr, darllenwch y ffeithiau hyn cyn gwneud cais.

Os oes gennych fam Brydeinig

Mae'n bosib eich bod wedi clywed am y newidiadau cyfreithiol sy'n rhoi cenedligrwydd Prydeinig i bobl a gafodd eu geni cyn mis Chwefror 1961 y cafodd eu mamau eu geni yn y DU.

Os bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi, bydd angen i chi gofrestru gydag Asiantaeth Ffiniau'r DU cyn y gallwch fod yn gymwys i gael pasbort. Gallwch gael gwybodaeth fanwl am hyn drwy ddilyn y ddolen isod i Asiantaeth Ffiniau'r DU.

Ar hyn o bryd, dim ond plant a aned cyn 1 Ionawr 1983 neu ar ôl hynny a all fod yn Brydeinig dim ond oherwydd i'w mamau gael eu geni yn y DU.

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys drwy briodas neu bartneriaeth sifil

Menywod priod

Nid yw menywod nad ydynt yn Brydeinwyr ac sydd wedi priodi dyn Prydeinig ar ôl 1 Ionawr 1949 yn cael dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig oherwydd eu priodas. Mae hyn yn berthnasol i p'un ai a oedd y dyn yn ddinesydd y DU cyn 1 Ionawr 1983 neu'n ddinesydd Prydeinig ar ôl 31 Rhagfyr 1982.

Os gwnaethoch briodi dyn Prydeinig cyn 1949 byddwch wedi cael ei ddinasyddiaeth yn awtomatig.

Pobl mewn partneriaeth sifil

Ni chaiff eich cenedligrwydd ei newid o dan y gyfraith Brydeinig gan eich bod wedi mynd i bartneriaeth sifil gyda dinesydd y DU.

A ydych yn gymwys gan eich bod yn byw yn y DU

Nid yw dinasyddion tramor neu ddinasyddion y Gymanwlad yn cael dinasyddiaeth yn awtomatig dim ond oherwydd eu bod yn byw yn y DU.

Dim ond at eich statws mewnfudo y mae 'hawl amhenodol i aros' yn y DU neu'r 'hawl i gael mynediad eto' yn cyfeirio ato. Nid yw'n rhoi'r hawl i genedligrwydd Prydeinig i chi nac i gyfleusterau pasbort Prydeinig.

Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau eich helpu i wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig. Mae'n rhaid i chi wneud hyn drwy'r Swyddfa Gartref. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â nhw drwy ddefnyddio'r cyfeiriad canlynol:

General Enquiries Section
Home Office Nationality Group
PO Box 306
Liverpool
L69 2UF

Gallwch hefyd eu ffonio ar 0845 010 5200 rhwng 8.30 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc. Mae'r rhif hwn yn hynod o brysur ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros.

I holi ynghylch eich statws mewnfudo, dylech gysylltu â:

UK Border Agency
Block C
Whitgift Centre
Croydon
Surrey CR9 1AT

Ffôn : 0870 606 7766

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i gael dinasyddiaeth Brydeinig ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU.

Beth i’w wneud os nad ydych chi'n siŵr o hyd

Os ydych yn meddwl bod eich cenedligrwydd yn eich gwneud yn gymwys i wneud cais am basbort Prydeinig, gweler 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU