Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gael pasbort os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu, ei eni gan fam benthyg neu ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth

Mae camau penodol y mae angen i chi eu dilyn i gael pasbort os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu, ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth neu gan fam benthyg. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud i gael pasbort ar gyfer eich plentyn.

Os yw eich plentyn yn perthyn i un o'r grwpiau hyn, bydd angen i chi ddilyn y camau arferol, ond mae rhai pethau ychwanegol y bydd angen i chi feddwl amdanynt.

Y ffurflen gais am basbort

Os byddwch yn gwneud cais am basbort plentyn, bydd angen i rywun â chyfrifoldeb rhiant lofnodi'r ffurflen gais.

Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu yn y DU, bydd gan unrhyw un a fabwysiadodd y plentyn yn gyfreithiol gyfrifoldeb rhiant a bydd yn gallu llofnodi'r ffurflen. Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu dramor, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) ar 0300 222 0000.

Os cafodd eich plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth a gynhaliwyd gan ymarferydd trwyddedig a bod gorchymyn rhieni wedi'i gyflwyno yn y DU ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd gan y naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn gyfrifoldeb rhiant. Fel arall, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau yr IPS ar 0300 222 0000.

Pan gaiff plentyn ei eni drwy drefniant â mam benthyg a bod gorchymyn rhiant wedi'i gyflwyno yn y DU ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd gan unrhyw un a enwir ar y gorchymyn gyfrifoldeb rhiant hefyd. Fel arall, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau yr IPS ar 0300 222 0000.

Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu yn y DU

Gellir pennu dinasyddiaeth Brydeinig drwy'r naill riant Prydeinig neu'r llall a oedd yn preswylio'n arferol yn y DU ar adeg mabwysiadu. Mae angen i'r IPS weld tystysgrif fabwysiadu eich plentyn yn dangos manylion y rhiant ac un o'r canlynol:

  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn ar gyfer y naill riant neu'r llall

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r ffurflen gais, lawrlwythwch gopi o'r llyfryn canllaw manwl ar gyfer y ffurflen hon.

Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu dramor

I blant a fabwysiadwyd y tu allan i'r DU cyn 1 Mehefin 2003, nid yw'r ffaith eu bod wedi cael eu mabwysiadu yn golygu'n awtomatig eu bod yn ddinasyddion Prydeinig, hyd yn oed os oedd un o rieni'r plentyn yn ddinesydd Prydeinig. Mae'n bosibl y caiff yr achosion hyn o fabwysiadu eu cydnabod gan gyfraith y DU at ddibenion cyfrifoldeb rhiant yn dibynnu ar y wlad lle cafodd y plentyn ei fabwysiadu, ond nid at ddibenion dinasyddiaeth. Os ydych yn ansicr ynghylch p'un a gaiff yr achos o fabwysiadu ei gydnabod, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau yr IPS ar 0300 222 0000.

I blant a fabwysiadwyd ar 1 Mehefin 2003 neu ar ôl y dyddiad hwnnw y tu allan i'r DU, gellir pennu dinasyddiaeth Brydeinig drwy'r naill riant neu'r llall a oedd yn byw yn y DU ar adeg mabwysiadu. Mae angen i'r IPS weld tystysgrif fabwysiadu Confensiwn Hague lawn y plentyn yn dangos manylion y rhiant ac un o'r canlynol:

  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn ar gyfer y naill riant neu'r llall

Os cafodd eich plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth

Pan gaiff plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth a gynhelir gan ymarferydd trwyddedig a bod gorchymyn rhieni wedi'i gyflwyno yn y DU ar ôl 6 Ebrill 2010, gellir pennu dinasyddiaeth drwy'r naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn.

Pan gaiff plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth a gynhelir gan ymarferydd trwyddedig i gwpwl benywaidd sydd mewn partneriaeth sifil a bod gan y ferch sy'n rhoi genedigaeth gytundeb ei phartner sifil i gael y driniaeth hon, gellir pennu dinasyddiaeth drwy'r partner a roddodd enedigaeth i'r plentyn os cafodd ei eni cyn 6 Ebrill 2009. Os cafodd ei eni ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, gellir pennu dinasyddiaeth drwy'r naill riant neu'r llall a enwir ar y dystysgrif geni.

Ym mhob un o'r achosion uchod, bydd angen i'r IPS weld tystysgrif geni lawn y plentyn yn dangos manylion y rhiant, y gorchymyn rhieni ac un o'r canlynol:

  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn ar gyfer y naill riant neu'r llall

Hefyd, ar gyfer cyplau mewn partneriaeth sifil:

  • dogfen partneriaeth sifil y rhiant (lle y bo'n berthnasol)
  • tystiolaeth o driniaeth mewn clinig trwyddedig yn y DU neu dystiolaeth o driniaeth dramor mewn clinig trwyddedig, er enghraifft llythyr gan y clinig lle y cynhaliwyd y driniaeth (os mai'r ail bartner sy'n ferch yw'r sawl sy'n gwneud cais neu'n trosglwyddo dinasyddiaeth)

Os caiff plentyn ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth o dan unrhyw amgylchiadau eraill, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau yr IPS ar 0300 222 0000.

Os cafodd eich plentyn ei eni drwy drefniant â mam benthyg

Pan gaiff plentyn ei eni gan fam benthyg a bod gorchymyn rhieni wedi'i gyflwyno yn y DU ar ôl 6 Ebrill 2010, gellir pennu dinasyddiaeth drwy'r naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn. Mae angen i'r IPS weld y canlynol:

  • y gorchymyn rhieni
  • tystysgrif geni’r plentyn
  • adran 4 o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau â manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn rhieni

Ac un o’r dogfennau canlynol hefyd:

  • tystysgrif geni'r DU ar gyfer y naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn rhieni
  • tystysgrif gofrestru neu ddinasyddio y Swyddfa Gartref ar gyfer y naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn rhieni
  • y pasbort a oedd yn ddilys ar adeg geni'r plentyn ar gyfer y naill riant neu'r llall a enwir ar y gorchymyn rhieni

Lle y caiff plentyn ei eni drwy drefniant â mam benthyg cyn 6 Ebrill 2010, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau yr IPS ar 0300 222 0000.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU