Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Drwy gefnogi datblygiad ac addysg eich plentyn gartref, gallwch gael effaith wirioneddol ar ei lwyddiant yn yr ysgol a thu hwnt. Ar y dudalen hon, gallwch weld amryw o becynnau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn eich helpu i gyfrannu at addysg eich plentyn gartref.
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau i'ch helpu i gyfrannu at addysg eich plentyn yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn yr ysgol. Mae'n cynnwys:
Mae’r ffolder hon yn cynnig amrywiaeth o awgrymiadau a chyngor da ynghylch sut i helpu plant gyda'u gwaith cartref. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r cyfnodau allweddol er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am addysg eich plentyn.
Mae’r pecyn ffolder yn ganllaw cyflawn i helpu gydag addysg eich plentyn gartref.
Weithiau, gall fod yn anoddach cyfrannu at addysg pobl ifanc, ond bwriedir i'r llyfryn hwn eich helpu i wneud hynny. Mae’n darparu’r canlynol:
Mae'r un mor bwysig eich bod yn dangos diddordeb yng ngwaith eich plentyn pan fydd yn ei arddegau â phan oedd yn ifanc. Gall rhieni a gofalwyr sy’n gweithio fel tîm gyda’u plentyn ei helpu i fod yn bositif ac i gadw ar y trywydd iawn i gael y dyfodol gorau posib.
Helpwch yr Adran Addysg i wella’r pecynnau hyn – byddent yn falch o gael adborth gennych. A oeddent yn ddefnyddiol, ac a oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer sut gellir eu gwella? Beth oedd barn eich plentyn?
Anfonwch unrhyw sylwadau dros yr e-bost at: parental-engagement@prolog.uk.com.