Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn y carchar neu wedi cael eich cadw yn y ddalfa, mae fel arfer yn golygu y bydd eich hawl i fudd-dal yn dod i ben; os oes arian yn ddyledus i chi gallwch wneud cais ysgrifenedig i’r rhain gael eu talu i rywun arall.
Os yw’ch partner wedi mynd i’r carchar efallai y byddwch chi’n parhau â hawl i fudd-dal cyn belled eich bod yn bodloni’r amodau hawl am y budd-dal yn eich enw eich hun.
Cynhelir Cymorthfeydd Cyflogaeth a Budd-daliadau ym mhob carchar sy’n gofyn am y gwasanaeth. Os ydych yn mynd i’r carchar byddwch yn gallu cau eich ceisiadau a chael unrhyw arian sy’n ddyledus i chi.
Os byddwch yn mynd i’r ddalfa ar ddedfryd fer bydd cais yn cael ei wneud ar eich rhan gan Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau’r Ganolfan Byd Gwaith i weld os gall eich cyflogwr gadw eich swydd yn agored i chi.
Tra y byddwch yn parhau i fod yn y carchar byddwch yn gallu siarad ag Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau am addysg a hyfforddiant a’ch helpu i chwilio am waith.
Hefyd gall yr ymgynghorydd roi gwybodaeth i chi am fudd-daliadau a’r Gronfa Gymdeithasol, a allai eich helpu’n ariannol pan fyddwch yn cael eich rhyddhau yn y lle cyntaf.
Os nad ydych wedi cael mynediad at Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau yn y carchar, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith i sicrhau eich bod yn cael cymorth i chwilio am swydd ac i osgoi unrhyw oedi gyda thaliadau.
Mae rhaglen a adnabyddir fel Cynnig Newydd i chi ei ddefnyddio. Os ydych am wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) bydd y rhaglen yn eich helpu i drefnu Cyfweliad Ceisiwr Gwaith Newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Bydd y rhaglen yn sicrhau eich bod mewn cysylltiad â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl i ystyried swyddi a hyfforddiant yn ogystal â delio â’ch cais am JSA.
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am fathau eraill o fudd-daliadau bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith gan y byddant yn dweud wrthych pwy y dylech gysylltu â hwy.
Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn gadael y carchar.
Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais ar 0800 055 6688.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu nam ar eich lleferydd, mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar 0800 023 4888.