Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n denant tŷ cyngor ac eisiau symud tŷ arnoch chi, gallech gyfnewid eich cartref gyda thenant tŷ cyngor arall neu denant cymdeithas dai arall. Gelwir hyn yn gydgyfnewid.
Wrth gydgyfnewid, gall tenantiaid tai cyngor gael cyfle i fyw yn y tŷ a'r ardal sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'r broses yn golygu bod dau denant neu ragor yn cyfnewid eu tai.
I denantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai eraill fel arfer), yn aml, cyfnewid eich tenantiaeth gyda thenant arall yw'r unig ffordd o symud o gwmpas ardal.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae gan rai cynghorau gynlluniau cydgyfnewid tai. Gwneir hyn fel arfer drwy lenwi ffurflen i ymuno â rhestr gyfnewid tenantiaid y cyngor.
Nid yw ymuno â rhestr cyfnewid y cyngor yn gwarantu y byddwch chi'n gallu cyfnewid eich cartref. Ni roddir caniatâd:
Weithiau, bydd yn rhaid bodloni telerau cyn y rhoddir caniatâd - er enghraifft, clirio unrhyw ôl-ddyledion rhent neu drwsio unrhyw ddifrod i'r eiddo.
Gall swyddfa ardal eich cyngor roi cyngor ac arweiniad i chi. Bydd y swyddfa ardal yn dod i arolygu eich cartref cyn y gwneir unrhyw gyfnewid, a gwneir trefniadau i brofi'r cyflenwad trydan a'r ffitiadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel.
Os nad yw'r cyngor yn gweithredu cynllun cyfnewid, ceir sawl ffordd arall o ddod o hyd i rywun i gyfnewid tŷ â nhw. Rhestrir rhai o'r ffyrdd hynny isod.
Mae'r rhan fwyaf am ddim, neu'n codi ffi fechan, ac yn cynnig gwasanaethau fforwm a chronfa ddata. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am wasanaethau ychwanegol os bydd eu hangen arnoch, ond mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau cyfnewid cartrefi.
Efallai y bydd modd i chi hefyd ddod o hyd i bartner cyfnewid drwy hysbysebu, naill ai drwy roi hysbysebion ar gerdyn post mewn siopau lleol neu drwy gyfrwng adrannau arbenigol mewn papurau newydd.