Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio

Weithiau, mae'n bosib y gwrthodir cais cynllunio. Os teimlwch fod hyn yn annheg neu'n anghywir bydd gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Pryd gewch chi apelio

Os bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthod eich cais cynllunio, dylech edrych ar y rhesymau pam y'i gwrthodwyd. Siaradwch â'ch awdurdod lleol i weld a allwch chi ddatrys y broblem drwy newid eich cynnig. Yn aml iawn, os newidiwch chi'ch cynnig a gwneud cais eto o fewn blwyddyn i'r gwrthod, ni fydd rhaid i chi dalu ffi arall. Ni ddylech apelio heblaw bod pethau wedi mynd i'r pen.

Cewch wneud apêl cynllunio dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • os ydych wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio i'ch awdurdod cynllunio lleol, a bod hwnnw wedi gwrthod caniatâd i chi
  • os yw'r awdurdod lleol wedi rhoi caniatâd ond ei fod wedi gosod amodau sydd yn eich barn chi'n amhriodol
  • os yw'r awdurdod lleol heb gymeradwyo manylion cynllun er ei fod ef neu'r Ysgrifennydd Gwladol eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinell ar ei gyfer
  • os yw'r awdurdod lleol wedi cymeradwyo manylion cynllun ond wedi gosod amodau sydd yn eich barn chi'n amhriodol neu'n afresymol
  • os gwrthododd eich awdurdod lleol gais yn codi o amod neu gyfyngiad ar ganiatâd cynllunio
  • os nad yw'r awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad ar eich cais o fewn yr amser a ganiatawyd (o fewn wyth wythnos i dderbyn eich cais fel arfer)

A ddylech apelio

Pwy all apelio

Dim ond y sawl sy'n ymgeisio am ganiatâd all apelio. Ni chaiff pobl neu fudiadau â diddordeb (sef 'trydydd partïon') yng Nghymru a Lloegr apelio. Gallwch apelio hefyd os yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cyflwyno Hysbysiad Gorfodi i chi.

Y dyddiad cau

Rhaid cyflwyno apêl o fewn chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad ar y cais (neu o fewn chwe mis i'r dyddiad pan ddylai'r penderfyniad fod wedi'i wneud).

Sut mae apelio

Os penderfynwch apelio, efallai y gallwch wneud eich cais ar-lein trwy gyfrwng y Porth Cynllunio (adnodd rheoliadau cynllunio ac adeiladu ar-lein llywodraeth y DU).

Fel arall, gallwch anfon eich apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio sy'n rhan o swyddfa'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Dylech gadw'r adroddiad ffacs, a rhifau cofnodi'r post neu gofynnwch am dderbynneb gyda'r dyddiad arni os byddwch yn cyflwyno'ch apêl yn bersonol.

Dylech lenwi tri chopi o'r ffurflen apelio. Anfonwch gopi at yr Arolygiaeth Gynllunio, un at yr Awdurdod Cynllunio Lleol a chadwch y llall. Gallwch ddefnyddio ffurflenni apelio oddi ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Os ydych yn byw yn Lloegr:

The Planning Inspectorate
PO Box 326,
BRISTOL
BS99 7XF.

Llinell Gymorth: 0117 372 8075
Ffacs: 0117 372 8782

Os ydych yn byw yng Nghymru:

Yr Arolygiaeth Gynllunio,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD,
CF10 3NQ.

Llinell Gymorth: 029 2082 5670
Ffacs: 029 2082 5150

Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio'n pennu amserlen gaeth ar eich cyfer chi a'r awdurdod cynllunio lleol sy'n nodi erbyn pryd mae'n rhaid anfon gwybodaeth atynt.

Pan fydd yr Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn eich apêl, byddan nhw'n ysgrifennu atoch yn cadarnhau pa drefn a ddilynir. Bydd eu llythyr hefyd yn nodi'r 'dyddiad dechrau'. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn dechrau'r amserlen anfon sylwadau, datganiadau neu brawf o dystiolaeth ar eich cyfer chi a'r Awdurdod Cynllunio Lleol.

  • o fewn pythefnos i'r dyddiad dechrau, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn anfon holiadur atoch chi a'r Arolygiaeth Gynllunio. Byddan nhw wedi'i lenwi'n barod. Byddan nhw hefyd yn sôn am yr apêl wrth bobl sydd â diddordeb.
  • o fewn chwe wythnos, gallwch chi a'ch Awdurdod Cynllunio Lleol anfon datganiad o'ch achos at yr Arolygiaeth Cynllunio - byddant yn anfon copi o'r hyn y mae'r naill a'r llall ohonoch wedi'u hanfon atoch chi a'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ynghyd ag unrhyw sylwadau gan bobl sydd â diddordeb
  • o fewn naw wythnos, gallwch chi a'r Awdurdod Cynllunio Lleol anfon unrhyw sylwadau at yr Arolygiaeth Gynllunio ynghylch datganiad y naill a'r llall ohonoch ac am sylwadau a gafwyd gan bobl â diddordeb

Faint fydd hyn yn ei gostio

Mae'r broses apelio ei hun am ddim. Fodd bynnag, fel arfer bydd rhaid i chi a'r awdurdod cynllunio lleol dalu eich costau eich hun waeth sut y caiff y penderfyniad ei wneud - drwy'r drefn ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad.

Bydd y gost drwyddi draw'n dibynnu ar a fyddwch chi'n cyflogi cynghorwyr neu gynrychiolwyr proffesiynol ai peidio. Weithiau, pan fydd gwrandawiad neu ymchwiliad, efallai y bydd gofyn i un ochr dalu costau'r ochr arall, ynghyd â'u costau eu hunain.

Dim ond os gall y sawl sy'n gwneud y cais ddangos bod yr ochr arall wedi ymddwyn yn afresymol ac wedi peri costau diangen iddynt y bydd yr arolygwr yn gwneud hynny.

Sut y gwneir y penderfyniad

Bydd arolygydd cynllunio'n ystyried apeliadau, ac fe benodir yr arolygwyr hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, neu yng Nghymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Delir â'r rhan fwyaf o'r rhain drwy'r drefn ysgrifenedig. Bydd rhai'n cael eu penderfynu drwy wrandawiad gerbron Arolygydd. Penderfynir ar ambell un ar ôl cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio'n anfon copi atoch o adroddiad yr Arolygydd. Fel arfer:

  • bydd yn disgrifio'r cynigion yn fras
  • bydd yn nodi'r materion cynllunio pwysig dan sylw
  • bydd yn egluro pam fod yr Arolygydd wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth

Sut mae apelio

Os penderfynwch apelio, efallai y gallwch wneud eich cais ar-lein trwy gyfrwng y Porth Cynllunio (adnodd rheoliadau cynllunio ac adeiladu ar-lein llywodraeth y DU).

Fel arall, gallwch anfon eich apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio sy'n rhan o swyddfa'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Dylech gadw'r adroddiad ffacs, a rhifau cofnodi'r post neu gofynnwch am dderbynneb gyda'r dyddiad arni os byddwch yn cyflwyno'ch apêl yn bersonol.

Dylech lenwi tri chopi o'r ffurflen apelio. Anfonwch gopi at yr Arolygiaeth Gynllunio, un at yr Awdurdod Cynllunio Lleol a chadwch y llall. Gallwch ddefnyddio ffurflenni apelio oddi ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Os ydych yn byw yn Lloegr:

The Planning Inspectorate
PO Box 326,
BRISTOL
BS99 7XF.

Llinell Gymorth: 0117 372 8075
Ffacs: 0117 372 8782

Os ydych yn byw yng Nghymru:

Yr Arolygiaeth Gynllunio,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD,
CF10 3NQ.

Llinell Gymorth: 029 2082 5670
Ffacs: 029 2082 5150

Ar ôl y penderfyniad

Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad neu'r ffordd y mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi delio â'r apêl, gallwch ysgrifennu at:

Uned Sicrwydd Ansawdd Yr Arolygiaeth Gynllunio
4/09 Kite Wing Temple Quay House
2 The Square Temple Quay
Bryste
BS1 6PN

Ebost: complaints@pins.gsi.gov.uk

Byddant yn ymchwilio i'ch cwyn ac fe allwch chi ddisgwyl ateb llawn o fewn tair wythnos.

Yr Uchel Lys

Bydd Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yw penderfyniad yr apêl mewn gwirionedd, a dim ond trwy'r Uchel Lys y gellir ei herio. Er mwyn llwyddo, rhaid i chi ddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi camddehongli'r gyfraith.

Os yw'ch her yn llwyddiannus, edrychir ar eich apêl eto, ond nid yw hyn o anghenraid yn golygu y bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wrthdroi.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU