Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tir comin a lawntiau pentref

Eich cyngor yn rhinwedd ei waith fel Awdurdod Cofrestru Tir Comin sy'n gyfrifol am gynnal y Cofrestri Tir Comin a Lawntiau Pentref.

Beth mae hyn yn ei gynnwys

Mae hyn yn cynnwys diweddaru'r cofrestri pan fydd perchnogaeth hawliau tir comin yn newid, neu pan ddosberthir yr hawliau. Bydd eich cyngor yn diwygio'r cofrestri pan fydd y Gofrestrfa Dir yn ei hysbysu bod perchnogaeth tir wedi newid ac yn diwygio'r cofrestri dan rai amgylchiadau i ddangos newid cyfeiriad. Mae'r cyngor hefyd yn gyfrifol am gofrestru lawntiau pentref "newydd".

Dogfen statudol yw'r gofrestr hon ac mae'n dangos yr holl dir o'r fath sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal. Bydd pob darn o dir comin a lawnt tref neu bentref wedi'i gofrestru yn y cofrestri dan 'rif uned' unigryw.

Rhennir pob rhif uned yn y gofrestr yn dair adran, sy'n dangos manylion:

  • Tir - mae hyn yn cynnwys disgrifiad o'r tir, pwy a'i cofrestrodd a pha bryd y cofrestrwyd y tir yn y pen draw. Hefyd, fe geir cynlluniau perthnasol sy'n dangos ffiniau'r tir.
  • Hawliau - mae hyn yn cynnwys disgrifiad o hawliau'r tir comin (ee yr hawl i roi 100 o ddefaid i bori yno), dros ba ddarn o'r comin y mae'r hawliau hyn ar gael, enw (os gwyddys ef) y sawl ('y cominwr') sydd biau'r hawliau hynny, ac a yw'r hawliau'n codi yn rhinwedd perchnogaeth tir ar wahân gan y cominwyr (hy eu bod yn 'atodiad' i'w tir).
  • Perchnogaeth - mae hyn yn cynnwys manylion (os gwyddys hwy) am berchnogion y tir comin. Fodd bynnag, nid yw cofnodion yn yr adran hon o'r cofrestri'n cael eu hystyried yn gynhwysfawr nac yn derfynol.

Mae cofrestri ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio'n rhad ac am ddim. Gallwch drefnu i weld y cofrestri drwy gysylltu â'ch cyngor.

Bydd eich cyngor hefyd yn gwneud chwiliadau swyddogol drwy'r cofrestri ac yn darparu tystysgrifau. Fel arfer, gwneir chwiliad pan fydd eiddo'n cael ei brynu neu'n cael ei werthu.

Beth yw tir comin?

Fel arfer, tir mewn perchnogaeth breifat yw tir comin, ac mae hawliau comin arno. Prif nodweddion tir comin yw ei fod fel arfer yn agored, heb ffens arno ac yn ddiarffordd - yn enwedig yn ucheldiroedd Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, fe geir ambell ardal o dir comin ar yr iseldir, yn enwedig yn ne-ddwyrain Lloegr, sy'n bwysig at ddefnydd hamdden.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y cyhoedd hawl i fynd ar dir comin oni bai fod y tir yn dir comin trefol, neu fod hawl tramwy'n ei groesi (a'u bod yn dilyn llwybr yr hawl tramwy honno). Fodd bynnag, erbyn hyn, mae'n bosib bod deddfwriaeth y llywodraeth yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i ganiatáu mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad agored hefyd yn cynnwys mynediad at dir comin.

Mae'r Asiantaeth Cefn Gwlad wedi cyhoeddi mapiau'n dangos y tir (gan gynnwys tir comin) y mae gan y cyhoedd yr hawl i fynd arno yn yr ardal hon.

Gall hawliau tir comin gynnwys:

  • rhoi defaid neu wartheg i bori
  • codi mawn neu dyweirch
  • cymryd coed neu eithin
  • cymryd pysgod
  • moch yn cael bwyta mes neu gnau ffawydd

Gelwir y bobl sydd â'r hawliau a restrir uchod yn 'gominwyr'.

Mae tir comin a'r hawliau sy'n gysylltiedig ag ef yn hen sefydliad - hŷn na'r Senedd ei hun. Maent yn rhan o wead bywyd yng Nghymru a Lloegr ac mae eu gwreiddiau yn y drefn faenoraidd.

Beth yw Lawnt Tref neu Bentref?

Mae lawntiau tref neu bentref yn rhannu'r un math o hanes â thir comin. Fodd bynnag, fe'u diffinnir ar wahân at ddibenion Deddf Cofrestru Tir Comin 1965.

Fel arfer, ardaloedd o dir y tu fewn i anheddau neu ardaloedd daearyddol penodol yw lawntiau pentref ac fe all y trigolion lleol fynd ar y tir hwn i gymryd rhan mewn chwaraeon ac adloniant cyfreithlon. Gan amlaf, bydd y rhain yn cynnwys pethau tebyg i gemau sydd wedi'u trefnu, neu rai sy'n digwydd ar hap, picnic, ffeiriau bach a gweithgareddau tebyg.

Er bod tir sy'n ffurfio lawntiau tref neu bentref o bosib yn eiddo preifat, bydd llawer o lawntiau o'r fath dan berchnogaeth cynghorau plwyf neu fro lleol a nhw fydd yn eu cynnal a'u cadw. Bydd gan rai lawntiau hefyd hawliau tir comin (h.y. hawl i roi da byw i bori yno).

Allweddumynediad llywodraeth y DU