Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud gwaith trydanol yn eich cartref neu'ch gardd

Os byddwch chi'n gwneud gwaith trydanol yn eich cartref neu yn eich gardd yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i chi ddilyn rheolau newydd y Rheoliadau Adeiladu a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005. Dyma faes newydd ar gyfer y Rheoliadau Adeiladu ac fe'i gelwir yn Rhan P (diogelwch trydanol).

Sut mae'r rheolau newydd yn effeithio arnoch chi?

Bydd angen i chi ddweud wrth Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol am y rhan fwyaf o waith. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi ddweud wrthyn nhw am atgyweiriadau, newid a gwaith cynnal a chadw ar hen gyfarpar neu socedi trydan neu bwyntiau golau ychwanegol nac unrhyw newidiadau eraill i gylchedau sydd eisoes yn bodoli (ac eithrio mewn cegin neu ystafell ymolchi, neu yn yr awyr agored). Os nad ydych yn sicr am hyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch i Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol.

Os nad ydych yn dymuno delio'n uniongyrchol â'r awdurdod lleol, gallwch ddefnyddio gosodwr sydd wedi cofrestru gyda chynllun person cymwys. Gallant ddelio â'r holl reolau newydd ar eich rhan, maent yn gymwys i wneud gwaith trydanol, a byddant yn rhoi tystysgrif i chi i gadarnhau bod eu gwaith yn dilyn y rheolau newydd. Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd rheoli adeiladu. Cewch ddewis cymryd gwarant a gefnogir gan yswiriant ar gyfer y gwaith ac mae trefn gwyno ffurfiol ar gael i chi os nad ydych yn hapus gyda'r gwaith.

Pam y cyflwynwyd y rheolau?

Sefydlwyd y rheolau er mwyn:

  • lleihau nifer y marwolaethau, yr anafiadau a'r tanau a achosir gan waith trydanol diffygiol
  • ei gwneud yn fwy anodd i 'adeiladwyr cowboi' adael gwaith trydanol mewn cyflwr anniogel

Beth fydd yn digwydd os na ddilynaf y rheoliadau?

Os na fyddwch yn dilyn y rheoliadau, bydd risg:

  • na fydd y gwaith trydanol yn ddiogel
  • na fydd gennych gofnod o'r gwaith a wnaed
  • y cewch anhawster wrth geisio gwerthu'ch cartref os nad oes gennych y tystysgrifau diogelwch trydanol priodol
  • y bydd Adran Rheoli Adeiladu eich cyngor lleol yn mynnu eich bod yn cywiro unrhyw waith diffygiol

Hysbysu'r cyngor am eich gwaith trydanol

Does dim angen i chi ddweud wrth Adran Rheoli Adeiladu eich cyngor lleol am y canlynol:

  • gwaith atgyweirio, newid hen gyfarpar a gwaith cynnal a chadw
  • socedi trydan neu bwyntiau golau ychwanegol neu unrhyw newidiadau eraill i gylchedau sydd eisoes yn bodoli (ac eithrio mewn cegin neu ystafell ymolchi, neu yn yr awyr agored)

Mae angen i chi ddweud wrthynt am y rhan fwyaf o waith arall.

Os nad ydych yn sicr am hyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, gofynnwch i Adran Rheoli Adeiladu eich cyngor lleol.

Defnyddio gosodwr sydd wedi cofrestru gyda chynllun person cymwys

Dyma fanteision defnyddio gosodwr cofrestredig:

  • gall aelodau'r cynlluniau ddelio gyda'r holl reolau newydd i chi
  • mae'r aelodau'n gymwys i wneud gwaith trydanol
  • bydd yr aelodau yn rhoi tystysgrif i chi i gadarnhau bod eu gwaith yn cydymffurfio â'r rheolau newydd
  • ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd rheoli adeiladu
  • cewch ddewis cymryd gwarant a gefnogir gan yswiriant ar gyfer y gwaith
  • mae trefn gwyno ffurfiol ar gael i chi os nad ydych yn hapus gyda'r gwaith

Gellir cael gwybodaeth am y cynlluniau ar gyfer gosodwyr gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Lliwiau newydd ar gyfer ceblau trydan y prif gyflenwad

Mae lliwiau'r gwifrau byw a niwtral mewn ceblau trydanol wedi newid o goch a du i frown a glas. Dyma'r un lliwiau â'r gwifrau mewn ceblau hyblyg i declynnau cludadwy. O 31 Mawrth 2006 ymlaen, rhaid i unrhyw waith weirio ddefnyddio'r lliwiau newydd.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU