Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae defnyddio'r bar offer hwn?

Mae'r bar offer hwn yn rhoi cyfle i chi ychwanegu dolenni at dudalennau Cross & Stitch ar wefannau cymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen.

Beth yw nodau tudalen ar wefannau cymdeithasol?

Mae nodau tudalen ar wefannau cymdeithasol yn ffordd o gadw dolenni at dudalennau gwe y mae gennych ddiddordeb ynddynt, a rhannu'r dolenni hynny â phobl eraill.

Cewch ddefnyddio'r safleoedd hyn am ddim, ond bydd angen i chi gofrestru gyda hwy er mwyn dechrau'r broses o greu nodau tudalen.

Er mwyn defnyddio gwefan gymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen, bydd angen i chi wneud y canlynol:

• cofrestru â safle cymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen
• dod o hyd i dudalen we rydych yn ei hoffi
• cadw'r ddolen ar y wefan gymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen, a bydd y wefan yn storio'r ddolen
• ychwanegu 'tagiau' neu eiriau at y ddolen i egluro cefndir y dudalen we
• ymweld â'r wefan gymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch, a gweld y dolenni a nodwyd
• gallwch hefyd edrych ar nodau tudalen pobl eraill, a gallan nhw weld eich rhai chi

Mae pob safle cymdeithasol lle gellir rhoi nodau tudalen yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, a chewch ddefnyddio faint bynnag a fynnwch. Mae'n syniad da i chi gymryd cip ar y gwahanol safleoedd cyn penderfynu ar safle yr hoffech ei ddefnyddio. Gallwch gofrestru gyda chynifer o safleoedd ag y dymunwch.

Mae Cross & Stitch yn gadael i chi greu dolen ar y safleoedd canlynol:

Facebook

Safle rhwydweithio cymdeithasol yw Facebook, ac mae miliynau o bobl yn ei ddefnyddio ledled y byd. Gall defnyddwyr gofrestru a chreu proffil. Yna gallant ychwanegu ffrindiau at y proffil hwn a rhannu gwybodaeth â'r ffrindiau hyn. Mae Facebook hefyd yn rhoi cyfle i chi greu grwpiau a thudalennau cefnogwyr yn ogystal â chreu nodau tudalen i dudalennau gwe eraill.

Twitter

Gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol yw Twitter. Bydd defnyddwyr yn cyhoeddi diweddariadau byr neu flogiau bach sy'n llai na 140 o nodau. Gall defnyddwyr gasglu dilynwyr a dilyn defnyddwyr eraill. Gall defnyddwyr hefyd dagio geiriau a chwilio am dagiau i gael gwybod beth mae pobl eraill yn siarad amdano.

StumbleUpon

Cymuned ar-lein o ddefnyddwyr yw StumbleUpon, a fydd yn dod o hyd i dudalennau gwe, lluniau a fideos ac yn rhoi sgôr iddynt. Gall defnyddwyr argymell tudalennau maent yn eu hoffi a dilyn argymhellion defnyddwyr eraill.

Delicious

Gwasanaeth cymdeithasol lle gellir creu nodau tudalen yw Delicious, sy'n rhoi cyfle i ddefnyddwyr ganfod, storio a rhannu tudalennau gwe diddorol. Rhaid i ddefnyddwyr dagio eu nodau tudalen â geiriau perthnasol er mwyn i bobl eraill sy'n chwilio am wybodaeth debyg allu dod o hyd iddynt.

Reddit

Gwasanaeth newyddion cymdeithasol yw Reddit. Mae'n gadael i ddefnyddwyr ychwanegu nodau tudalen at storïau newyddion ar wefan gymdeithasol. Gall defnyddwyr bleidleisio i ddweud a ydynt yn hoffi dolen ynteu ddim yn ei hoffi, ac ymuno â thrafodaethau ynghylch nodau tudalen gwahanol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU