Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae tanysgrifio i gael crynodeb RSS Cross & Stitch?

Mae tanysgrifio i gael crynodeb RSS Cross & Stitch yn gyflym ac yn hawdd. Bydd sut y byddwch yn tanysgrifio yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn ddefnyddiwr unigol sydd am gael yr wybodaeth ddiweddaraf, neu'n berchennog gwefan sydd am ddefnyddio cynnwys Cross & Stitch ar eich gwefan.

Crynodebau RSS ar gyfer defnyddwyr unigol

Bydd angen i ddefnyddwyr unigol sydd am danysgrifio i gael crynodeb RSS Cross & Stitch gael darllenydd newyddion.

Darllenyddion newyddion

Mae darllenydd newyddion yn ddarn o feddalwedd sy'n gwirio crynodebau RSS yr ydych wedi tanysgrifio i'w cael ac yn gadael i chi ddarllen unrhyw erthyglau newydd sydd wedi'u cyhoeddi.

Mae llawer o wahanol fathau o ddarllenyddion newyddion. Mae rhai ohonynt yn seiliedig ar y we a gallwch gael gafael arnynt oddi ar unrhyw gyfrifiadur, ac mae eraill y gallwch eu llwytho oddi ar y we a dim ond ar y cyfrifiadur y gwnaethoch eu llwytho arno y gallwch eu defnyddio.

Tanysgrifio i gael crynodeb RSS Cross & Stitch

Unwaith y byddwch wedi dewis darllenydd newyddion bydd angen i chi benderfynu pa grynodebau RSS Cross & Stitch yr hoffech eu cael. Gallwch weld rhestr o’r holl grynodebau RSS Cross & Stitch ar dudalen llyfrgell RSS.

Mae botwm oren wrth ochr bob crynodeb RSS Cross & Stitch. Er mwyn tanysgrifio i gael crynodeb RSS Cross & Stitch dylech wneud un o'r canlynol:

  • clicio ar yr eicon oren
  • llusgo'r botwm RSS oren i’ch darllenydd newyddion
  • llusgo neu ludo’r crynodeb URL i’ch darllenydd newyddion

Crynodebau RSS ar gyfer perchnogion gwefannau

Os oes gennych chi eich gwefan eich hun, gallwch ddefnyddio crynodeb RSS Cross & Stitch i ddangos y penawdau diweddaraf ar eich gwefan. Mae llawer o declynnau ar gael i'ch helpu i ychwanegu crynodebau RSS ar eich gwefan.

Mae Cross & Stitch yn annog gwefannau i ddefnyddio ei grynodebau RSS fel rhan o'u gwefan, ond mae'n rhaid priodoli'r holl wybodaeth i Cross & Stitch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU