Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft yn cynnwys drafft o gynigion y llywodraeth ynghylch cyfreithiau newydd ar gyfer sesiwn nesaf y Senedd, ac yn rhoi cyfle i chi wneud sylwadau ar y Mesurau cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar eu ffurf derfynol yn Araith y Frenhines.

Deddfu ym Mhrydain

Cyhoeddodd y llywodraeth ei Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft gyntaf ym mis Gorffennaf 2007. Mae'r penderfyniad i gyhoeddi rhaglen ar ffurf drafft yn cyd-fynd â nod y llywodraeth o wneud y broses ddeddfu yn fwy agored a chynyddu cyfraniad y cyhoedd.

Cyhoeddwyd rhaglen 2008-09 ar 14 Mai 2008. Gallwch weld y ddogfen gyfan drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae'r rhaglen yn rhoi'r cyfle i chi edrych ar yr holl Fesurau sy'n cael eu hystyried - ond gan mai drafft ydyw, mae'r llywodraeth yn disgwyl iddi ddatblygu a newid dros y flwyddyn. Mae'n bosib y bydd cynnwys Mesurau unigol yn newid ac efallai y caiff Mesurau newydd eu hychwanegu cyn Araith y Frenhines wrth i faterion newydd godi ac yn sgil yr ymgynghoriad.

Cael Dweud Eich Dweud - Ymgynghoriad y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus ar raglen 2008-09 i ben ar 6 Awst 2008. Diolch i bawb a gyfrannodd drwy lenwi holiadur yr ymgynghoriad, drwy adael sylw ar Fesur penodol neu drwy awgrymu Mesurau newydd.

Bydd y llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Yn yr hydref, bydd y llywodraeth yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd.

Caiff yr hyn a ddywedir yn ystod yr ymgynghoriad ei ystyried wrth gynhyrchu'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer sesiwn 2008-09 y Senedd. Cynhelir Araith y Frenhines ar 3 Rhagfyr 2008.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft - digwyddiadau rhanbarthol

Mae digwyddiadau ymgynghorol rhanbarthol yn cael eu trefnu ledled y DU. Caiff manylion llawn y digwyddiadau, megis ble y cânt eu cynnal, pa fath o ddigwyddiadau ydynt a phwy fydd yn bresennol ymhob un ohonynt, eu cyhoeddi ar wefan Arweinydd Tŷ'r Cyffredin - cliciwch ar y ddolen isod, sy'n arwain at fap rhyngweithiol.

Yn yr adran hon...

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU