Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Helpu i atal ymosodiad terfysgol

Gallwch ffonio Llinell Frys Gwrthderfysgaeth yr Heddlu ar 0800 789 321. Bydd pob galwad yn gyfrinachol. Os ydych chi’n credu bod bygythiad dybryd i fywyd, ffoniwch 999.

Terfysgaeth – arwyddion posib

"Bydd ymchwil yn cael ei wneud i’r holl wybodaeth sy’n cyrraedd y llinell frys cyn i’r heddlu weithredu. Gadewch i ni benderfynu a yw’r wybodaeth sydd gennych yn werthfawr ai peidio. Mae arnom angen eich cymorth yn ddirfawr i leihau’r perygl a achosir gan derfysgwyr. Yn wir, mae nifer o droseddau terfysgaeth difrifol wedi cael eu hatal diolch i lygaid a chlustiau’r cyhoedd."

Peter Clarke, y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol – Cydlynydd Cenedlaethol Ymchwiliadau Terfysgaeth Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Terfysgaeth – arwyddion posib

Mae’n bosib bod gennych wybodaeth hollbwysig. Os byddwch yn clywed, yn gweld, neu’n digwydd taro ar unrhyw bell a allai fod yn gysylltiedig â gweithgarwch terfysgol, cofiwch roi gwybod i’r heddlu. Byddant yn falch o glywed gennych.

Mae ar derfysgwyr angen:

  • lle i fyw: ydych chi’n amau unrhyw denantiaid neu westeion?
  • cynllunio: ydych chi wedi gweld rhywun yn rhoi sylw anghyffredin i fesurau diogelwch yn rhywle?
  • arian: fe allai unigolion sefydlu cyfrifon banc ffug, copïo cardiau credyd, dychwelyd nwyddau am symiau mawr o arian parod
  • offer: rydych chi'n adwerthwr, oes gennych chi unrhyw reswm dros fod yn ddrwgdybus am unrhyw beth sy'n cael ei brynu?

Nid yw’r gallu i atal ymosodiad terfysgol yn dibynnu ar yr awdurdodau’n unig. Mae llawer yn dibynnu arnoch chi hefyd.

"Mynd i’r afael â therfysgaeth yw prif flaenoriaeth MI5. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ym maes gorfodi'r gyfraith a chudd-wybodaeth er mwyn gwneud ein gorau i gadw'r DU yn ddiogel a'i gwneud yn anodd i derfysgwyr weithredu yma. Ond mae angen i’r cyhoedd fod ar eu gwyliadwriaeth, defnyddio’u synnwyr a chydweithredu, ac mae’r rhain yn elfennau yr un mor bwysig a hanfodol ag ymateb y DU yn gyffredinol."

Y Fonesig Eliza Manningham-Buller, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaeth Diogelwch (MI5)

Byddwch yn wyliadwrus

Mewn mannau cyhoeddus y bydd ymosodiadau terfysgol â bomiau'n digwydd fel arfer, yn enwedig mannau lle bydd pobl yn teithio neu’n ymgynnull.

Cofiwch:

  • byddwch yn wyliadwrus
  • cadwch olwg am ymddygiad, cerbydau neu becynnau amheus
  • peidiwch ag oedi – rhowch wybod i’r heddlu ar unwaith

Polisi’r Llywodraeth

Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad am rybuddion neu wybodaeth gyhoeddus. Polisi'r llywodraeth yw rhoi rhybuddion pan fydd modd i’r cyhoedd gymryd camau i ymateb i fygythiad penodol neu ddilys. Bydd rhybuddion o’r fath hefyd yn rhoi gwybodaeth bellach a fydd yn helpu’r cyhoedd i ymateb yn effeithiol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU