Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Panel Dysgwyr Cenedlaethol: cynnwys dysgwyr yn siapo addysg bellach

Mae'r Panel Dysgwyr Cenedlaethol yn cynghori'r llywodraeth am y ffordd y bydd newidiadau arfaethedig i addysg bellach yn Lloegr yn effeithio ar ddysgwyr. Mae'n banel o wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn addysg bellach - gan roi llais i ddysgwyr fel chi ar siapio dysgu.

Beth mae’r Panel Dysgwyr Cenedlaethol yn ei wneud

Gwneud cais i ymuno â'r panel

Eisiau helpu i siapio addysg uwch?

Sefydlwyd y Panel Dysgwyr Cenedlaethol gan y llywodraeth er mwyn rhoi llais i ddysgwyr yn natblygiad addysg bellach ar lefel genedlaethol. Mae'r panel yn darparu cyngor i'r llywodraeth a mudiadau eraill sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau.

Drwy roi safbwynt dysgwr am bolisïau, cynigion a mentrau, ei nod yw gwneud gwahaniaeth i'ch profiad o addysg bellach - a hynny i bobl sy'n dysgu yn y gwaith, yn astudio mewn coleg, yn mynychu dosbarth nos neu unrhyw ffurf arall ar ddysgu i oedolion.

Dyma rai o’r materion mae’r panel wedi’u hystyried yn y gorffennol:

  • sut mae sicrhau bod safbwynt dysgwyr yn cael ei ystyried yn ystod archwiliadau'r coleg
  • beth yw'r ffordd orau o gyflwyno newidiadau gan anelu at godi lefel sgiliau yn y DU
  • cynigion i godi'r oed ieuengaf y gall pobl ifanc adael addysg neu hyfforddiant

Pwy sydd ar y Panel Dysgwyr Cenedlaethol

Mae aelodau'r panel yn wirfoddolwyr rhan-amser annibynnol. Mae unrhyw un sy'n gweithio ym maes addysg bellach yn gymwys i wneud cais i eistedd ar y panel - yr unig beth y mae ei angen arnynt yw diddordeb mewn addysg bellach ac ymroddiad i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr.

Mae'r aelodau yn adlewyrchu'r ystod eang o ddysgwyr sydd mewn addysg bellach. Dônt o bob rhan o'r sector, gan gynnwys dysgwyr mewn colegau a dysgwyr sy'n dysgu yn y gwaith.

Panel Dysgwyr 14-19

Mae'r llywodraeth hefyd wedi sefydlu panel newydd yn ddiweddar i gynnwys dysgwyr yn gwella addysg i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed. Bydd y panel newydd yn cyd-weithio gyda'r Panel Dysgwyr Cenedlaethol.

Mae aelodau’n cynnwys pobl ifanc sy’n astudio i wneud ystod eang o gyrsiau a chymwysterau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymwysterau newydd (megis Diplomâu, sgiliau ymarferol a’r llwybrau dilyniant Haen Dysgu Sylfaenol)
  • cymwysterau cyffredin (TGAU a Safon Uwch)
  • cyrsiau galwedigaethol (megis prentisiaethau ifanc, BTEC a NVQ)

Mae’r panel hefyd yn agored i ddysgwyr iau sy’n dal yn astudio i wneud Cyfnod Allweddol 3.

Cael gwybod mwy ynghylch y paneli

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch:

  • sut mae’r paneli yn gweithio
  • pwy ydy aelodau’r panel, a beth yw eu barn nhw
  • sut y gallwch wneud cais i ymuno ag un o’r paneli yn y dyfodol
  • sut y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith y panel

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU