Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llwytho ffurflen gais Hawl i Brynu oddi ar y we (RTB1)

Mae'r cynllun Hawl i Brynu yn rhoi hawl i denantiaid cyngor cymwys brynu eu tŷ gan y cyngor am bris gostyngol. Gall tenantiaid cymdeithasau tai a chanddynt hawl diogel i brynu hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Cyn i chi wneud cais

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys i wneud cais. I gael manylion am bwy sy'n gymwys a pha ostyngiadau sy'n berthnasol, darllenwch y llyfryn arweiniad ‘Your Right to Buy your Home’, sydd ar gael o'r ddolen isod.

Os mai fflat cyngor yw'r eiddo rydych chi'n ei rentu, darllenwch ‘Thinking of Buying your Council Flat’ sydd ar gael o'r ddolen isod.

Dim ond ar gyfer tenantiaid sy'n byw yn Lloegr y mae'r cynllun hwn ar gael. Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â swyddfa dai eich llywodraeth neu â'ch landlord i gael manylion cynlluniau tebyg.

Sut mae gwneud cais – y ffurflen Hawl i Brynu

Os ydych chi wedi darllen y deunydd perthnasol a'ch bod yn dal yn dymuno gwneud cais, llwythwch ffurflen gais RTB1 oddi ar y we drwy'r ddolen isod, ei llenwi a'i hanfon at eich landlord.

Additional links

Dyma rai o'r pethau eraill y gallwch eu gwneud ar y we...

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU