Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wneud cais ar-lein am Fondiau Incwm ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Mae Bondiau Incwm yn cynnig math gwahanol o fuddsoddiad sy'n talu llog yn rheolaidd i'r deilydd.
Gallwch fuddsoddi unrhyw faint o £500 i £1m, yn dibynnu ar faint sydd ar gael gennych i'w fuddsoddi a faint o incwm yr hoffech i'ch Bondiau ei gynhyrchu. Telir llog yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu cyn tynnu treth. Gall cyfraddau llog amrywio.
Caiff unrhyw un sy'n saith oed neu'n hŷn fuddsoddi mewn Bondiau Incwm, naill ai'n unigol neu ar y cyd gydag un person arall. Gellir eu prynu hefyd gan ymddiriedolwyr ar ran hyd at ddau fuddiolwr personol.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at y dudalen gwneud cais ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol. Fe welwch hefyd ddolenni at ragor o fanylion am sut y mae Bondiau Incwm yn gweithio.
Os byddai'n well gennych beidio â gwneud cais ar-lein, ceir manylion hefyd am wneud cais dros y ffôn.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes