Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wneud cais ar-lein am Fondiau Incwm Sicr ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Bydd Bondiau Incwm Sicr yn rhoi incwm misol sicr i chi heb gyffwrdd eich buddsoddiad cyfalaf. Maent hefyd yn cynnig dewis o delerau cyfradd sefydlog, felly gallwch ddewis yr un sydd orau ar eich cyfer chi.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at y dudalen gwneud cais ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, oherwydd telir eich incwm i gyfrif o'ch dewis. Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, dim ond ar eich cyfer chi neu ar y cyd â rhywun arall y gallwch brynu.
Os yw hi'n well gennych beidio â gwneud cais ar-lein ceir manylion ar y wefan hefyd am wneud cais ar y ffôn, drwy'r post neu yn eich Swyddfa'r Post leol.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes