Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwneud cais am Fondiau Bonws Plant

Gwneud cais am ffurflen i wneud cais am Fondiau Bonws Plant ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Golwg gyffredinol

Gallwch fuddsoddi yn nyfodol eich plentyn yn ei enw ei hun gyda'r Bondiau Bonws Plant gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol. Bydd holl enillion Bondiau Bonws Plant yn ddi-dreth ar gyfer y plentyn yn ogystal â'r rhiant.

Bydd pob Bond yn ennill cyfradd llog sefydlog am bum mlynedd, ac fe ychwanegir bonws ar ben blwydd y bumed flwyddyn. Bydd y bonws yn sefydlog pan fyddwch yn codi'r Bond, felly byddwch yn gwybod wrth fuddsoddi faint yn union fydd gwerth y Bond ar ddiwedd y tymor.

Ar ddiwedd pob tymor gallwch adael i'r Bond ennill cyfradd llog di-dreth newydd am bum mlynedd eto, neu hyd nes bod y plentyn yn 21, pan ychwanegir y bonws terfynol. Ac os y bydd y plentyn yn dechrau gweithio ac yn talu treth cyn codi'r Bond, ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth; bydd y llog a'r holl fonws yn parhau'n ddi-dreth.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

I wneud cais bydd angen i chi ofyn am ffurflen oddi ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol a'i dychwelyd wedi'i llenwi drwy'r post.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i dudalen y ffurflen gais, gyda dolenni at fwy o fanylion ynghylch sut y mae Bondiau Bonws Plant yn gweithio ar ochr chwith y dudalen.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU