Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwneud cais ar-lein am Dystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog di-dreth oddi ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Buddsoddiadau cyfandaliadau yw Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog sy'n ennill cyfraddau llog dros gyfnodau amser penodol, a elwir yn 'dermau'. Ni chodir Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf arnynt.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, sy'n cynnwys manylion cynnyrch, cyfraddau llog cyfredol a chyfrifiannell i'ch helpu i asesu faint allai gwerth eich tystysgrif fod erbyn diwedd y tymor.
Defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais. Sicrhewch fod eich cerdyn debyd (Switch neu Visa Delta) wrth law. Os oes gennych Dystysgrifau Cynilo eisoes, sicrhewch fod rhif y cwsmer/deilydd gennych.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes