Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwneud cais am Dystysgrifau Cynilo Mynegrifol

Gwneud cais ar-lein am Dystysgrifau Cynilo Mynegrifol ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Golwg Gyffredinol

Buddsoddiadau cyfandaliadau yw Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol sydd wedi'u cysylltu â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Adwerthu, y ffordd fwyaf cyffredin o fesur chwyddiant. Maent yn ennill cyfraddau llog ychwanegol hefyd sy'n cynyddu'n flynyddol dros gyfnodau amser penodol, cyfnodau a elwir yn 'dermau'. Ni chodir Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf arnynt - ac nid oes yn rhaid i chi ddatgan y llog ar ôl derbyn eich treth.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Defnyddiwch y ddolen 'Gwneud cais am Dystysgrifau Cynilo Mynegrifol' isod i gychwyn ar eich cais. Fe gewch fwy o wybodaeth hefyd gan gynnwys y cyfraddau llog cyfredol.

Unwaith y byddwch yn barod i wneud cais ar-lein, sicrhewch fod eich cerdyn debyd (Switch neu Visa Delta) wrth law. Os oes gennych Dystysgrifau Cynilo eisoes, sicrhewch fod rhif y cwsmer/deilydd gennych.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU