Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael neges longyfarch gan y Frenhines

Gallwch gael neges longyfarch gan y Frenhines ar ben-blwyddi arbennig a rhai pen-blwyddi priodas.

Cael neges ben-blwydd neu ben-blwydd priodas gan y Frenhines

Gallwch gael neges gan y Frenhines ar eich pen-blwydd yn 100 oed a 105 oed, a phob blwyddyn ar ôl eich pen-blwydd yn 105 oed.

Gallwch hefyd gael neges ar ben-blwydd eich priodas yn 60 oed (diemwnt), 65 oed a 70 oed (platinwm), a bob blwyddyn ar ôl pen-blwydd eich priodas yn 70 oed.

Ni chodir tâl am negeseuon pen-blwydd neu ben-blwydd priodas gan y Frenhines ond bydd angen i chi anfon tystiolaeth o'r achlysur.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ac anfon copi o'ch tystysgrif geni neu'ch tystysgrif priodas. Archebu copïau o dystysgrifau gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Cwestiynau cyffredin am gael neges gan y Frenhines

Ni ddylech anfon eich ffurflen gais hyd nes tair wythnos cyn dyddiad y dathliad.

Gallwch gael neges hwyr hyd at chwe mis ar ôl y pen-blwydd neu'r pen-blwydd priodas os byddwch wedi colli'r dyddiad. Mae'r ffurflen yn egluro sut i wneud hyn.

Anfonwch eich ffurflenni i:

The Anniversaries Office
Buckingham Palace
London
SW1A 1AA

Os ydych yn byw dramor

Gallwch hefyd gael neges longyfarch ar eich pen-blwydd neu ben-blwydd eich priodas os ydych yn byw dramor bellach, os cawsoch eich geni dramor neu os gwnaethoch briodi dramor. Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o'ch cenedligrwydd Prydeinig h.y. llungopi o basport Prydeinig cyfredol neu ddiweddar.

Os ydych yn byw yn Awstralia, Canada neu Seland Newydd, anfonwch y ffurflen gais wedi'i chwblhau at eich Llywodraethwr Cyffredinol sy'n trefnu i'r neges longyfarch gael ei hanfon.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU