Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio iawndal ar gyfer anafiadau sy'n gysylltiedig â throsedd

Os oes gennych anafiadau sy'n gysylltiedig â throsedd, gallwch wneud cais am iawndal drwy'r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol.

Trosolwg

Mae'r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol yn caniatáu i ddyfarniadau ariannol gael eu gwneud:

  • i gydnabod yr anafiadau, corfforol a meddyliol, a achosir gan drosedd dreisgar
  • mewn rhai amgylchiadau, i ddigolledu am enillion a gollwyd yn y gorffennol neu a gaiff eu colli yn y dyfodol neu dreuliau arbennig a achosir gan drosedd o'r fath
  • ar gyfer profedigaeth o ganlyniad i drosedd dreisgar gan gynnwys, mewn rhai achosion, digolledu am enillion a gollwyd gan yr unigolyn a gafodd ei ladd

Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y mae'r gwasanaeth hwn ar gael ac mae'n berthnasol i bob cais a dderbynnir gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol ar, neu ar ôl, 1 Ebrill 2001.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Er mwyn gwneud cais am iawndal o dan y Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol, dylech:

  • ddewis y math o ddyfarniad rydych am wneud cais amdano, naill ai dyfarniad anaf angheuol neu ddyfarniad anaf personol
  • lawrlwytho ffurflen y gellir ai hargraffu (ar ffurf PDF) a'i hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad ar frig y ffurflen gais

Cyn cwblhau ffurflen gais ar gyfer dyfarniad, sicrhewch fod gennych y canlynol:

  • rhif Yswiriant Gwladol yr unigolyn a anafwyd
  • rhif cyfeirnod trosedd a roddwyd gan yr heddlu ar gyfer y digwyddiad
  • manylion am yr ysbyty, y meddyg neu'r deintydd lle cafwyd triniaeth o ganlyniad i'r anaf

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU