Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Defnyddiwch wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i wneud cwyn am ddarparwr gwasanaethau ariannol.
Mae'n rhaid i chi wneud cwyn wrth eich darparwr gwasanaeth ym mhob achos cyn y gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol eich helpu. Rhoddir cynghorion ar y wefan ar gyfer sut i ddelio â'r cwmni o dan sylw.
Os nad ydych yn fodlon ar benderfyniad y cwmni am eich cwyn, gallwch wedyn lenwi ffurflen gwyno. Cyn i chi wneud hyn darllenwch y daflen 'Eich cwyn a'r ombwdsmon'.
Mae gennych ddau ddewis wrth lenwi ffurflen gwyno. Gallwch naill ai:
Gallwch lwytho fersiwn Microsoft Word neu fersiwn PDF o'r ffurflen gyda'r ddau ddewis.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes