Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Grantiau Gofal yn y Gymuned wedi'u cynllunio i helpu pobl sydd ar incwm isel pan fyddant yn symud o ofal preswyl i fyw'n annibynnol yn y gymuned.
Mae’r dudalen Grantiau Gofal yn y Gymuned yn egluro pwy all eu hawlio, dan ba amgylchiadau, faint o fenthyciad a ellir ei gael, a sut i wneud cais amdano.
Defnyddiwch y ddolen isod i lwytho ffurflen hawlio Grant Gofal yn y Gymuned ar fformat PDF. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.
Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y mae’r gwasanaeth ar-lein hwn ar gael.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes