Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio Lwfans Gwarcheidwad (ffurflen BG1)

Llenwch ffurflen Lwfans Gwarcheidwad gan Gyllid a Thollau EM os ydych yn credu bod gennych yr hawl i dderbyn cymorth ariannol i fagu plentyn a'i rieni wedi marw.

Golwg Gyffredinol

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Gwarcheidwad a delir i rywun sy'n gofalu am blentyn a'i rieni wedi marw. Mewn rhai amgylchiadau gellir ei dalu pan mai dim ond un rhiant sydd wedi marw. Nid oes ots faint o arian sydd gennych neu faint yr ydych chi'n ei ennill.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Bydd y ddolen isod yn eich arwain at y dudalen 'Ffurflen Lwfans Gwarcheidwad BG1' ar wefan Cyllid a Thollau EM. Gallwch lwytho'r ffurflen hawlio a'r nodiadau i’ch helpu i lenwi'r ffurflen gais yma. Mae'n bwysig cyfeirio at y nodiadau cyn llenwi'r ffurflen.

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU