Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

LHADirect – Lwfansau Tai Lleol (LHA)

Yma, cewch gyfrifo faint o ystafelloedd gwely y mae gennych yr hawl i’w cael dan y Lwfans Tai Lleol (LHA), a chael gwybod beth yw eich cyfradd LHA chi. Bydd eich budd-dal tai yn seiliedig ar y nifer hwn o ystafelloedd gwely, nid ar faint yr eiddo rydych chi’n byw ynddo.

Defnyddir cyfraddau LHA i gyfrifo budd-dal tai i denantiaid sy’n rhentu gan landlordiaid preifat. Mae’r cyfraddau LHA yn dibynnu ar yr ardal y byddwch yn gwneud eich hawliad ynddi. Gelwir yr ardaloedd hyn yn Ardaloedd Marchnad Rhentu Eang.

O fis Ebrill 2012 ymlaen caiff cyfraddau eu diweddaru bob blwyddyn yn hytrach na bob mis. Golyga hyn y byddant yn aros yr un fath rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2013.

Gweld beth yw'ch cyfraddau LHA chi

I weld beth yw’r cyfraddau LHA, bydd arnoch angen y canlynol:

  • manylion faint o bobl sy’n byw yn eich cartref, gan gynnwys aelodau o’r teulu, y rheini nad ydynt yn ddibynyddion, lletywyr ac is-denantiaid
  • gwybodaeth ynghylch a oes gennych chi hawl i gael ystafell wely ychwanegol ar gyfer rhywun nad yw’n byw gyda chi, ond sy’n darparu gofal dros nos angenrheidiol ar eich cyfer chi neu'ch partner
  • cod post yr eiddo rydych chi’n ei rentu neu am ei rentu, neu’r awdurdod lleol lle mae’r eiddo wedi’i leoli

Os nad ydych chi’n sicr pwy sy’n perthyn i’ch cartref at ddibenion budd-dal tai, cysylltwch ag adran budd-dal tai yr awdurdod lleol.

Cyfrifo’r ystafelloedd gwely a dod o hyd i gyfraddau LHA

Cyfrifwch faint o ystafelloedd gwely y mae gennych chi hawl i’w cael dan y Lwfans Tai Lleol, neu chwiliwch am eich cyfradd LHA:

Pan na fydd angen i chi defnyddio’r gyfrifiannell ystafelloedd gwely

Bydd nifer yr ystafelloedd gwely y mae gennych chi'r hawl i'w cael wedi'i bennu’n barod os ydych chi’n gwpl neu’n berson sengl sy’n hawlio dan amgylchiadau penodol.

Pan fyddwch yn defnyddio ‘Dod o hyd i gyfraddau LHA’, dewiswch y gyfradd ‘Llety a rennir’ os yw un neu ragor o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn un o gwpl, nid ydych yn byw â dibynyddion ac rydych yn rhentu ystafell mewn cartref a rennir
  • rydych yn 34 mlwydd oed neu'n iau ac yn byw ar eich pen eich hun (ceir eithriadau ar gyfer pobl sy'n ddifrifol anabl, y rheini dan 22 mlwydd oed sydd wedi gadael gofal neu’r rheini sydd ag ystafell wely sy’n cael ei defnyddio gan weithwyr gofal sy’n darparu gofal dros nos)
  • rydych yn 35 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn rhentu ystafell at eich defnydd chi, a chi yn unig, mewn cartref a rennir

Dewiswch y gyfradd '1 ystafell wely' os ydych chi’n 35 mlwydd oed neu’n hŷn ac yn rhentu eiddo yn ei gyfanrwydd (e.e. fflat neu dŷ cyfan, yn hytrach na dim ond ystafell).

Nid yw LHADirect yn addas i bawb

Os ydych chi’n un o’r grwpiau canlynol, cysylltwch â’ch cyngor lleol am gyngor:

  • tenant sy’n hawlio ar gyfer angori neu osod cwch preswyl / llong arall a ddefnyddir fel cartref
  • tenant sy’n hawlio ar gyfer rhent maes carafanau neu osod carafán / cartref symudol
  • tenant y mae ei rent yn cynnwys swm sylweddol am fwyd a gwasanaeth
  • rhywun sy’n byw mewn hostel
  • tenant sy’n cael ei warchod gan y Ddeddf Rhenti

Cael gwybod sut y pennir cyfraddau Lwfans Tai Lleol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch

  • pa wybodaeth am renti a ddefnyddir i osod cyfraddau LHA
  • sut caiff gwybodaeth am renti ei chasglu, ac o ble
  • sut caiff ei defnyddio i osod cyfraddau Lwfans Tai Lleol
  • sut gall landlordiaid preifat a thenantiaid ddarparu gwybodaeth am renti

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU