Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am ymestyn y les ar eich fflat, bydd angen i chi dalu ‘premiwm’ (pris) i’r landlord. Defnyddiwch y gyfrifiannell ymestyn les i gael syniad o faint allai’r pris fod ar gyfer estyniad o 90 mlynedd.
Os bydd gan les 60 mlynedd neu ragor arni, gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell i amcangyfrif y pris ar gyfer ychwanegu 90 mlynedd ati.
Gall ymestyn y les godi gwerth y fflat. Os oes gan eich les lai nag 80 mlynedd arni, bydd y landlord yn cael cyfran o’r cynnydd hwn (a elwir yn ‘werth priodas’). Bydd y gyfrifiannell yn cynnwys y gwerth hwn os bydd yn berthnasol.
I gael pris cywirach ar gyfer ymestyn les, bydd angen help proffesiynol arnoch.
Er mwyn defnyddio’r gyfrifiannell ymestyn les, bydd arnoch angen syniad o’r canlynol:
Bydd yr wybodaeth hon wedi’i chynnwys ar y les.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes