Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwasanaeth Cynghori ar Brydlesoedd – ffurflen ymholiadau ar-lein

Anfonwch ymholiad ar-lein i’r Gwasanaeth Cynghori ar Brydlesoedd (LEASE). Mae LEASE yn darparu cyngor am ddim ynglŷn â’r gyfraith sy’n effeithio ar eiddo ar brydles yng Nghymru a Lloegr.

Pryd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch gael cyngor diduedd a phroffesiynol gan LEASE os oes gennych broblem neu bryder ynghylch:

  • y gyfraith yn ymwneud ag eiddo ar brydles preswyl hir (fel arfer lle rhoddwyd prydles i bara mwy na 21 o flynyddoedd)
  • eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel prydleswr

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth hwn

Er mwyn defnyddio gwasanaeth ymholiadau ar-lein LEASE, bydd arnoch angen y canlynol:

  • manylion eich cyfeiriad, fel y gall LEASE sicrhau nad yw eich achos chi yn gwrthdaro ag achos arall – er enghraifft, gwneud yn siŵr nad yw’r cynghorydd sy’n eich helpu eisoes yn rhoi cyngor i landlord eich adeilad
  • cyfeiriad e-bost, fel y gallwch gael ymateb gan un o gynghorwyr LEASE

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU