Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Alcohol a throseddu

Mae’r cysylltiadau rhwng alcohol a thrais yn rhai adnabyddus, ond oeddech chi’n gwybod fod alcohol yn gysylltiedig â bron i hanner yr holl droseddau treisgar? Yma, cewch wybod beth y gallwch chi ei wneud am droseddau sy'n ymwneud ag alcohol yn eich ardal chi

Alcohol a throseddu: ciplun

Mae'r defnydd o alcohol yn cael effaith fawr ar droseddu. Mae ystadegau troseddu diweddar yn dangos fod:

  • dioddefwyr 45 y cant o’r holl droseddau treisgar yn credu fod eu hymosodwyr wedi bod yn yfed
  • 37 y cant o achosion trais domestig yn gysylltiedig ag alcohol
  • mwy na miliwn o droseddau wedi bod yn gysylltiedig ag alcohol mewn rhyw ffordd, yn 2007-08

Y mathau o droseddau sydd fel arfer yn gysylltiedig ag alcohol

Mae alcohol yn aml yn chwarae rôl mewn troseddau penodol, gan gynnwys:

  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • ymosodiad
  • lladrad

Mewn nifer o achosion roedd y troseddwr a’r dioddefwr ill dau wedi bod yn yfed cyn i’r trosedd gael ei gyflawni. Mae hynny’n ei gwneud yn anoddach i’r Heddlu gael disgrifiad da o’r un a ddrwgdybir ac i ganfod beth ddigwyddodd.

Cosbi mân droseddau sy’n ymwneud ag alcohol

Os nad ydych chi’n mynd i ganol tref wedi iddi nosi ar benwythnosau oherwydd eich bod yn poeni am drais ac ymddygiad brawychus yn gysylltiedig ag alcohol, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae hyn yn broblem mewn nifer o gymunedau.

I atal y math hwnnw o stŵr brawychus, gall yr Heddlu roi dirwy yn y fan a’r lle ar ffurf hysbysiad cosb am ymddygiad meddwol brawychus.

Gall hysbysiad gael ei roi am droseddau megis:

  • bod yn feddw’n gyhoeddus
  • creu niwsans
  • pasio dŵr yn gyhoeddus
  • ymddygiad bygythiol

Canlyniad hysbysiad o'r fath yw dirwy yn y fan a’r lle, gyda maint y ddirwy yn amrywio ym mhob achos, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y digwyddiad.

Gall unrhyw un sy’n yfed gormod a thorri’r gyfraith yn gyson hefyd gael gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO). Bydd y gorchymyn hwnnw’n cael ei deilwra i gyfyngu ar ble y maent yn mynd a beth y maent yn ei wneud, a gall eu gorchymyn rhag mynd i mewn i dafarn neu far penodol.

Os ydynt yn torri’r gorchymyn gallant gael eu cosbi’n llymach gyda dirwyon uchel a hyd yn oed amser yn y carchar.

Ydych chi’n poeni am droseddu’n ymwneud ag alcohol yn eich ardal chi?

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd os ydych chi'n poeni am droseddu'n ymwneud ag alcohol yn eich ardal chi

Gallwch chi wneud y pethau hyn:

  • cysylltu â’ch tîm plismona cymdogaeth i roi gwybod iddynt am y broblem – maent yn arbenigo mewn materion cymdogaeth o’r fath, ac yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda thrigolion
  • cysylltu â’ch cyngor lleol i roi gwybod iddynt beth sy’n digwydd
  • ymuno â grŵp Gwarchod y Gymdogaeth lleol, lle y gallwch chi glywed am brofiadau pobl eraill
  • ymweld â gwefan Alcohol Concern, sydd yn cynnwys llawer o wybodaeth am faterion yn ymwneud ag alcohol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU