Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Troseddau gynnau

Os ydych chi'n pryderu ynghylch troseddau gynnau yn eich ardal chi, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'n saff. Os ydych chi'n dymuno gwybod mwy am gyfreithiau sy’n ymwneud â gynnau a chael gwybodaeth gyffredinol am droseddau gynnau, cewch wybod y ffeithiau yma.

Ciplun o droseddau gynnau yng Nghymru a Lloegr

Dyma’r ystadegau diweddaraf ar droseddau gynnau, sy’n cymharu troseddau gynnau 2007-08 â’r rhai a gyflawnwyd yn 2006-07:

  • bu gostyngiad o 2 y cant yn nifer y troseddau cyffredinol yn ymwneud â gynnau
  • bu i ynnau achosi 455 anaf difrifol neu farwol, o’i gymharu â 468 y flwyddyn gynt – gostyngiad o 3 y cant
  • ni fu newid sylweddol yn nifer y troseddau’n ymwneud â gynnau llaw, a bu gostyngiad o 3 y cant yn nifer y troseddau'n ymwneud â gynnau tanio
  • ni fu newid sylweddol yn nifer y troseddau yn ymwneud â gynnau ffug a gafwyd eu riportio

Beth yw troseddau gynnau?

Mae troseddau gynnau yn cynnwys unrhyw drosedd lle defnyddir gwn neu ddryll o ryw fath arall.

Mae hyn yn cynnwys:

  • llofruddiaeth lle saethwyd y dioddefwr
  • unrhyw sefyllfa lle saethwyd gwn, hyd yn oed os na chafodd neb ei anafu
  • unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth lle’r oedd y lladron yn cario gwn
  • unrhyw achos lle cafodd pobl eu dychryn gan arf
  • unrhyw un a ganfuwyd yn cario gwn wedi’i wahardd, megis gwn llaw
  • unrhyw un a ganfuwyd yn cario neu ddefnyddio gwn ffug

Cyfreithiau sy'n ymwneud â gynnau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae dedfrydau i bobl a geir yn euog o droseddau'n ymwneud â gwn neu fath arall o ddryll yn fwy llym o lawer, er mwyn mynd i'r afael â phroblem troseddau gynnau.

O dan y gyfraith bresennol:

  • mae unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn euog o fod â gwn anghyfreithlon yn ei feddiant yn wynebu dedfryd leiaf o bum mlynedd yn y carchar
  • mae’n anghyfreithlon bod ag arf aer neu wn ffug yn eich meddiant yn gyhoeddus heb esgus rhesymol
  • y cyfyngiad oed ar gyfer prynu neu berchen ar reiffl aer yw 17
  • mae rhai reifflau aer y gellir eu haddasu i danio bwledi a ffrwydron byw nawr yn anghyfreithlon

Os ydych chi'n dymuno gwybod a yw gwn yr ydych chi am ei brynu yn gyfreithlon, neu i ganfod mwy am reolau berchen gwn, cysylltwch â’ch heddlu lleol.

Beth allwch chi ei wneud?

Riportio troseddau gynnau

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau gynnau, cysylltwch â’ch heddlu lleol.

Os ydych chi’n nerfus ynghylch mynd at yr Heddlu, gallwch ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111. Fydd neb byth yn gofyn i chi am eich enw nac yn ceisio olrhain eich rhif ffôn.

Bod yn rhan o atal troseddau gynnau

Mae heddlu a chynghorau ar draws y wlad yn aml yn rhedeg ymgyrchoedd gwrth-ynnau, ac os yw gynnau'n peri gofid i chi neu yn eich dychryn, efallai y byddech yn dymuno bod yn rhan ohonynt. Mae’r ymgyrchoedd hyn fel arfer yn cynnwys digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio i godi ymwybyddiaeth am broblemau yn eich ardal chi. Maent yn darparu cyfleoedd i chi siarad â phobl bryderus eraill am sut y dylid mynd i'r afael â’r materion.

Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â’ch tîm plismona cymdogaeth. Gallwch hefyd daro i mewn i’ch gorsaf heddlu agosaf i ddod o hyd i grwpiau yn eich ardal chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU