Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Caniatâd cynllunio - pryd i wneud cais

Os byddwch yn adeiladu rhywbeth y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer heb gael caniatâd i ddechrau, efallai y byddwch yn gorfod unioni pethau yn ddiweddarach, a allai fod yn gostus ac yn helbulus. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor.

Pryd mae angen i chi wneud cais

Dyma rai enghreifftiau cyffredin lle byddai angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio:

  • ymestyn fflat neu fflat deulawr, neu ychwanegu atynt, gan gynnwys rhai sydd wedi cael eu trosi o dai
  • rhannu rhan o'ch tŷ i'w ddefnyddio fel cartref ar wahân (er enghraifft, fflat neu fflat un ystafell hunangynhaliol)
  • defnyddio adeilad neu garafán yn eich gardd fel preswylfan ar wahân ar gyfer rhywun arall
  • adeiladu tŷ ar wahân yn eich gardd
  • rhannu rhan o'ch cartref ar gyfer dibenion busnes neu ddibenion masnachol (gweithdy, er enghraifft) neu er mwyn adeiladu lle parcio ar gyfer cerbyd masnachol
  • adeiladu rhywbeth sy'n mynd yn groes i delerau'r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich cartref (er enghraifft, efallai bod amod cynllunio wedi'i osod i'ch atal rhag gosod ffens yn yr ardd ffrynt oherwydd bod y tŷ ar ystâd "cynllun agored")
  • efallai y bydd y gwaith rydych am ei wneud yn rhwystro pobl sy'n defnyddio'r ffordd rhag gweld
  • byddai'r gwaith yn cynnwys mynediad newydd neu ehangach i gefnffordd neu i ffordd ddosbarthedig

Am ragor o gyngor ynghylch pryd y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, ewch i wefan Porth Cynllunio. Gallwch hefyd drafod eich cynigion drwy gysylltu ag adran gynllunio eich cyngor.

Pryd nad oes angen i chi wneud cais

Gallwch wneud rhai mathau o newidiadau bach i'ch cartref heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio - er enghraifft, gosod blwch larwm neu godi waliau a ffensys dan uchder penodol. Gelwir y rhain yn 'hawliau datblygu a ganiateir'.

Ym mis Hydref 2008, cafodd yr hawliau hyn eu gwneud yn gliriach a'u hymestyn i gynnwys mwy o brosiectau adeiladu. Mae prosiectau y gellir eu cyflawni heb ganiatâd cynllunio - ar yr amod eu bod yn bodloni amodau pwysig penodol (megis y rheini sy'n cwmpasu dimensiynau a safle estyniad) - yn cynnwys:

  • estyniadau ac ystafelloedd haul
  • trawsnewid atig
  • gosod paneli solar
  • addasiadau i do
  • patios a dreifs

Ardaloedd o ddiddordeb arbennig

Mewn rhai ardaloedd, mae'r hawliau datblygu a ganiateir yn fwy cyfyngedig. Os ydych chi'n byw mewn adeilad rhestredig, mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Lynnoedd Norfolk neu Suffolk, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith nad oes angen cais ar eu cyfer mewn ardaloedd eraill.

Porth Cynllunio

Mae gwefan y Porth Cynllunio'n darparu nifer o arfau a all fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn meddwl am wneud cais cynllunio:

  • canllaw ar wneud cais ar-lein - bydd hyn yn darparu arweiniad drwy'r gwasanaeth gwneud cais ar-lein
  • cyfrifydd ffioedd - mae hwn yn cyfrifo cost unrhyw gais cynllunio neilltuol
  • cyfrifydd cyfaint - gall hwn eich helpu i bennu cyfaint adeilad, er enghraifft, os ydych yn ystyried codi adeilad newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU