Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: gwaith heb ei fesur

Os nad ydych yn meddwl eich bod yn gweithio ar sail amser, ar sail oriau cyflogedig nac ar sail allbwn - mae'n debygol eich bod yn gwneud gwaith heb ei fesur. Hyd yn oed gyda gwaith heb ei fesur, mae gan bob gweithiwr bron hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC).

Gwaith heb ei fesur

Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith

Cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC

0800 917 2368

Mae gwaith heb ei fesur yn golygu unrhyw waith nad yw'n cael ei fesur ar sail amser, ar sail oriau cyflogedig nac ar sail allbwn. Gyda gwaith heb ei fesur, bydd gennych dasgau i'w gwneud ond ni fydd eich cyflogwr yn pennu dyddiad i chi eu cwblhau, neu bydd yn disgwyl i chi wneud gwaith yn ôl yr angen neu pan fydd ar gael.

Os ydych wedi darllen yr erthyglau ar waith ar sail allbwn, gwaith ar sail amser a gwaith ar sail oriau cyflogedig ac nad ydych yn meddwl bod y rhain yn disgrifio eich patrwm gweithio chi, mae'n debyg eich bod yn gwneud gwaith heb ei fesur. Os nad ydych yn sicr gallwch ffonio Llinell Gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am gymorth cyfrinachol.

Oriau sy'n cyfrif at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gellir pennu'r oriau o waith heb ei fesur sy'n cyfrif at yr ICC mewn un o ddwy ffordd:

  • gweithio nifer yr oriau y cytunir arnynt yn y cytundeb 'cyfartaledd dyddiol'
  • cadw cofnod o bob awr a weithir

Cytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a'ch cyflogwr yw cytundeb cyfartaledd dyddiol. Llunnir y cytundeb cyn dechrau'r cyfnod cyfeirnod cyflog sy'n berthnasol iddo. Rhaid iddo nodi faint o oriau ar gyfartaledd yr ydych yn debygol o'u gweithio bob dydd - ac mae'n rhaid iddo fod yn realistig.

Os nad oes gennych gytundeb cyfartaledd dyddiol, rhaid i'ch cyflogwr gofnodi nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio yn ystod y cyfnod cyfeirnod cyflog a thalu'r ICC i chi, ar gyfartaledd, ar gyfer pob awr a weithiwch.

Cyfrifo a ydych yn cael yr ICC

I gael gwybod a ydych yn cael yr ICC pan fyddwch yn gwneud gwaith heb ei fesur, dylech rannu'r swm a dalwyd i chi yn ystod y cyfnod cyfeirnod cyflog gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio.

Cyfrifiad enghreifftiol ar gyfer gwaith heb ei fesur

Rydych yn weithiwr 38 oed ac yn cael eich talu'n wythnosol. Mewn wythnos benodol rydych yn cael £120. Nifer gyfartalog yr oriau y cytunir eich bod yn eu gweithio bob dydd yw pump (mewn geiriau eraill, nifer yr oriau yr ystyrir eich bod yn debygol o'u gweithio bob dydd). Yn yr wythnos benodol honno, roeddech ar gael i weithio'r bum awr lawn yr oedd disgwyl i chi eu gweithio, am bedwar diwrnod.

Cam un: cyfrifwch faint o waith yr ydych wedi'i wneud - pum awr x pedwar diwrnod = 20 awr

Cam dau: rhannwch eich cyflog gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio - £120 / 20 awr = £6 / awr

Mae eich cyflog yn is na'r ICC.

Ble mae cael cymorth

Mae llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael eich talu yr ICC gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith neu ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau neu gwyno ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU