Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae pryderon cyffredin myfyrwyr ynghylch tai yn cynnwys gwaith atgyweirio, biliau neu rent heb eu talu, a chael eu blaendal yn ôl. Beth bynnag yw'ch problemau, cofiwch fod cymorth a chyngor ar gael.
Gall y gyfraith dai a materion yn ymwneud â thenantiaeth fod yn gymhleth, felly ceisiwch beidio â gwneud eich rhagdybiaethau eich hun am y gyfraith.
Os cewch anawsterau neu os byddwch yn wynebu caledi ariannol, y cam cyntaf y dylech ei gymryd yw gofyn am gymorth gan y swyddfa dai yn eich prifysgol neu'ch coleg.
Gallwch hefyd gael cyngor arbenigol gan ffynonellau annibynnol megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter.
Os oes angen arian arnoch er mwyn gallu aros yn eich llety, gall y swyddfa dai hefyd eich helpu i wneud cais am arian gan gronfa Mynediad at Ddysgu eich sefydliad, neu ymchwilio i ffynonellau eraill a allai helpu.
Eich landlord fydd yn gyfrifol am unrhyw beth sydd angen ei atgyweirio fel arfer, megis strwythur yr eiddo, y system wresogi, dŵr poeth ac offer glanweithiol.
Rhowch wybod i'ch landlord am unrhyw beth nad yw'n gweithio neu unrhyw ddifrod cyn gynted ag y bo modd.
Os ydych chi'n rhannu tŷ gyda ffrindiau mae'n debygol y byddwch yn llofnodi ‘cytundeb cyd-denantiaeth’, a fydd yn golygu bod pob un ohonoch yn gyfrifol os torrir unrhyw un o amodau'r cytundeb, gan gynnwys materion megis methu â thalu rhent neu os gwneir niwed i'r eiddo.
Felly os yw un o'ch cyd-letywyr yn symud allan yn annisgwyl, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy na'ch siâr arferol o filiau a rhent.
Er y gall hyn wneud i chi deimlo'n rhwystredig, peidiwch â chynhyrfu. Ewch i siarad â'ch landlord, ac â'r person sydd wedi symud allan os yw hynny'n bosib, er mwyn trafod y symiau sy'n ddyledus.
Cyn cael cyd-letywr newydd, trafodwch delerau'ch tenantiaeth gyda'ch landlord. Os nad ydynt yn fodlon i chi gael rhywun arall yn lle'r person sydd wedi gadael, efallai y gallwch geisio iawn am y telerau annheg sy'n gysylltiedig â'ch cytundeb.
I gael mwy o wybodaeth gweler yr erthyglau, ‘Tai preifat ar rent a thenantiaethau’ ac ‘Ôl-ddyledion rhent’.
Gall eich landlord ddefnyddio'ch blaendal i dalu am golledion neu ddifrod tra'ch bod chi'n byw yn ei eiddo, ond ni chaiff ei ddefnyddio i dalu am draul resymol.
Os yw'ch landlord yn dal ei afael yn eich blaendal yn annheg ar ôl i'ch tenantiaeth ddod i ben, ysgrifennwch lythyr ato'n gofyn am gael eich blaendal yn ôl.
Dywedwch fod angen i chi gael rhesymau ar bapur yn egluro pam nad yw'r blaendal yn cael ei ddychwelyd atoch yn llawn. Cadwch bob copi o'ch gohebiaeth - bydd arnoch eu hangen os penderfynwch fynd i'r llys.
Os na chewch ymateb, neu os na allwch ddatrys anghydfod ymysg eich gilydd, ewch i'r swyddfa tai myfyrwyr neu'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol am sgwrs.
Gallwch weithredu drwy'r llys hawliadau bychain, ond gall hynny fod yn broses hir.
Ers 6 Ebrill 2007, mae'n rhaid i flaendaliadau a delir ar gyfer y rhan fwyaf o denantiaethau newydd gael eu gwarchod dan gynllun Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth.
Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i atal landlordiaid rhag dal eu gafael yn eich blaendal, naill ai ran ohono neu'r cyfan ohono, heb fod ganddo'r hawl i wneud hynny, ac yn helpu i ddatrys unrhyw anghydfod. Gweler yr adran Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth am fwy o wybodaeth.
Os yw'ch landlord yn bod yn afresymol, ceisiwch gyngor cyfreithiol yn syth.
Fel tenant, mae gennych hawl gyfreithiol i gael eich amddiffyn rhag cael eich troi allan o'r tŷ yn anghyfreithlon. Er enghraifft, mae'n drosedd cyfreithiol i landlordiaid ddefnyddio grym i wneud i ddeiliaid adael, hyd yn oed pan mae'r denantiaeth wedi dod i ben yn ôl y gyfraith.
I gael cyngor, cysylltwch â swyddog tai myfyrwyr eich prifysgol neu goleg, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yr heddlu.
Bydd eich awdurdod lleol hefyd yn gallu eich cynghori ynghylch sut y gallwch chi, fel tenant, amddiffyn eich hawliau.
O bryd i'w gilydd, bydd tŷ neu fflat ar rent yn dioddef ymwelwyr nad oes llawer o groeso iddynt, megis llygod neu chwain.
Gall hyn fod yn berygl posib i iechyd a dylech gysylltu â'ch landlord mor fuan ag y gallwch. Cofiwch nodi eich pryderon ar bapur a cheisio cyngor proffesiynol os na ddelir â'ch gofynion.
Wrth fyw mewn tŷ neu fflat ar rent, gallwch greu sŵn na fydd yn cael llawer o groeso gan eich cymdogion: sŵn o gerddoriaeth, partïon neu fynd a dod yn gyffredinol.
Ffordd syml o atal llawer o broblemau yw ystyried teimladau'ch cymuned leol:
Os ceir gwrthdaro, ceisiwch beidio â gadael iddo fynd allan o reolaeth, a cheisiwch ddatrys anghydfodau cyn i bobl eraill ddod yn rhan ohonynt.
Os bydd y cymdogion yn cwyno am lefelau sŵn uchel, gallai eich awdurdod lleol ymweld â chi.
Dod o hyd i'r ffordd gyflymaf o fynd o'ch tŷ i'ch darlith gyntaf