Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n 16, yn 17 neu'n 18, gallai'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg gynnig cymorth go iawn gyda'ch costau dysgu. Os ydych yn gymwys, mae'n hawdd iawn cael gafael ar yr arian. Ond gwnewch gais cyn gynted â phosib: neu mae'n bosib y bydd rhaid i chi aros yn hwy am eich taliadau. Os ydych chi’n astudio yn Lloegr, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dilyn y camau syml isod.
Os cawsoch y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn 2008/09, efallai na fydd angen i chi lenwi ffurflen gais arall ar gyfer 2009/10.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar gyfer 2009/10:
Mae 'gwarant Lwfans Cynhaliaeth Addysg' yn golygu y cewch daliadau awtomatig ar yr un gyfradd am hyd at dair blynedd, hyd yn oed os yw incwm eich cartref yn cynyddu. Mae hyn yn berthnasol i'r flwyddyn pan fyddwch yn dod yn 19.
Felly, os cawsoch Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd, ac os nad oeddech yn gwneud rhaglen Mynediad at Waith a bod eich amgylchiadau heb newid, ni fydd angen i chi lenwi ffurflen ar gyfer 2009/10. Dim ond cofrestru gyda'ch darparwr dysgu ar gyfer 2009/10 fydd angen i chi wneud, ac fe fyddwch yn parhau i gael taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Gweler 'Lwfans Cynhaliaeth Addysg: 'faint, a pha mor aml' am ganllawiau ar gyfer faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr ydych yn debygol o'i gael ar gyfer 2009/10 yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Os ydych yn ansicr ynghylch a ydych yn gymwys - neu a oes angen i chi lenwi'r ffurflen - ffoniwch llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am y cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg iawn
Mae’r dudalen hon yn amlinellu sut i wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydych yn astudio yn Lloegr.
Os ydych yn astudio yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu’r Alban, peidiwch â defnyddio’r ffurflen gais i bobl sy’n astudio yn Lloegr: bydd angen i chi wneud cais i’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadau astudio ynddo. Gweler ‘Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban’ i gael gwybod sut.
Os ydych yn astudio yn Lloegr, ffordd hawsaf o gael pecyn ymgeisio yw gwneud cais ar-lein.
Gallwch hefyd gael pecyn ymgeisio drwy:
A chaniatáu eich bod chi’n gymwys, gorau po gyntaf y byddwch yn gwneud cais er mwyn i chi gael eich arian.
Gallwch wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond os carech i'r taliadau gael eu hôl-ddyddio i ddechrau'r cwrs neu raglen ddysgu, bydd angen i chi wneud cais o fewn 28 diwrnod i ddyddiad dechrau'r cwrs.
Os ydych yn gwneud cais yn agos at y dyddiad cau ac yn meddwl bod yna broblem gyda’r post (er enghraifft, oherwydd streic) gofynnwch am ‘Dystysgrif Postio’ gan swyddfa’r post pan fyddwch chi'n anfon eich ffurflen gais. Gallwch ddefnyddio hwn fel cadarnhad o bryd anfonoch chi’ch ffurflen.
Bydd ceisiadau sydd wedi cael eu hoedi oherwydd streic bost yn cael eu trin gyda chydymdeimlad.
Llenwi manylion rhieni neu ofalwr
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen i'ch rhiant neu'ch gofalwr ddarparu tystiolaeth am incwm y cartref ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (ar gyfer ymgeiswyr Lwfans Cynhaliaeth Addysg 2009/10, y flwyddyn berthnasol fydd 2008-09).
Gallai hyn olygu anfon eu Hysbysiad am Ddyfarniadau Credyd Treth (TC602) neu ffurflen P60.
I gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu arnoch, a thystiolaeth i brofi bod gennych un (er enghraifft, cyfriflen neu lythyr gyda'ch enw, cyfeiriad a manylion banc arno).
Os nad ydych wedi agor cyfrif banc eto, mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn rheswm da dros gael un.
Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, anfonir Hysbysiad o Hawl atoch yn cadarnhau faint y byddwch yn ei gael yr wythnos. Mae'n bwysig cadw'ch Hysbysiad o Hawl yn ddiogel: ni fyddwch yn gallu hawlio Lwfans Cynhaliaeth Addysg hebddo.
Ewch â'ch Hysbysiad o Hawl gyda chi pan fyddwch yn cofrestru ar eich cwrs neu raglen ddysgu.
Bydd eich ysgol, eich coleg neu'ch darparwr dysgu hefyd yn gofyn i chi lofnodi cytundeb dysgu, a fydd yn nodi disgwyliadau o ran presenoldeb, ymddygiad, gwaith cwrs a chynnydd.
Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, ffoniwch llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989. Bydd cynghorwyr Cefnogaeth i Ddysgwyr yn fwy na pharod i'ch helpu i ddatrys eich problem.